Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio trosiadau gweledol i gael hyd i ffordd trwy salwch

4 Chwefror 2019

image from book cover
Image by Paula Knight http://paulaknight.co.uk Instagram @paulajkstudio

Llyfr newydd yn archwilio sut rydym ni’n defnyddio trosiadau gweledol i’n helpu i ddeall y profiad o fod yn sâl.

Visual Metaphor and Embodiment in Graphic Illness Narratives, sy'n arloesol o ran damcaniaeth a methodoleg, yw'r llyfr diweddaraf gan yr arbenigwr Iaith a Chyfathrebu, Dr Elisabeth El Refaie.

Mae trosiadau yn ein helpu i ddeall cysyniadau haniaethol, emosiynau a chysylltiadau cymdeithasol trwy brofiad diriaethol ein cyrff ein hunain.  Mae Damcaniaeth Trosiadau Cysyniadau (CMT), sy’n amlwg dros ben ym maes astudiaethau trosiadau cyfoes, yn troi o gwmpas yr honiad hwn.

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae cyfatebiaethau o ran ein canfyddiad o’r byd yn ystod ein plentyndod cynnar yn parhau yn ein system gysyniadol, ac yn dylanwadu ar ein meddyliau gydol oes, ar lefel isymwybodol yn bennaf.

Ond beth sy’n digwydd pan fydd salwch yn amharu ar ein profiad arferol?

Yn ei llyfr, sydd wedi cael canmoliaeth gan y beirniaid, mae’r Dr El Refaie yn archwilio sut mae trosiadau’n cyfleu ac yn adlewyrchu’r newidiadau yn ein corff oherwydd afiechyd.  Yn ei dadansoddiad gofalus o drosiadau gweledol mewn 35 naratif salwch graffig (hanesion hyd llyfr am afiechyd ar ffurf comigau), mae hi’n cynnig cysyniad “ymgorffori deinamig”.

Mae El Refaie yn adeiladu ar drywyddau ymchwil diweddar ym maes CMT ac yn ymgysylltu â chysyniadau perthnasol o feysydd ffenomenoleg, seicoleg, semioteg, ac astudiaethau cyfryngau, er mwyn dangos sut mae profiad ein cyrff ein hunain yn addasu’n barhaus i newidiadau yn ein cyflwr iechyd unigol, ein harferion sosio-ddiwylliannol, a’n dulliau a’n cyfryngau cyfathrebu.

Mae’r gwaith rhyngddisgyblaeth hwn hefyd yn cynnig system ddosbarthu newydd ar gyfer trosiadau gweledol, sy’n gwahaniaethu rhwng trosiadau darluniadol, gofodol ac arddulliadol.  Nod y dull newydd hwn yw hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o ffenomena sy’n ymwneud â ffurfio’n meddyliau, ein rhyngweithio a’n hymddygiad pob dydd.

Cyflawniad gwych. Mae’r llyfr hwn yn bendant yn cyflawni (ei) agenda radical.  Trwy ganolbwyntio ar drosiadau gweledol mewn 35 o naratifau salwch graffig, mae El Refaie yn herio theorïau cyfredol ynghylch trosiadau ac ymgorffori i ddelio gyda mathau lluosog o amrywiaeth (cyrff gwahanol, afiechydon gwahanol, mathau gwahanol o destunau amlfoddol).  Mae hyn yn arwain at fewnwelediad a datblygiadau a fydd yn berthnasol ar draws llawer o ddisgyblaethau, o wyddoniaeth wybyddol trwy ddadansoddi disgwrs amlfoddol i’r dyniaethau meddygol” - Elena Semino, Athro Ieithyddiaeth [Prifysgol Lancaster]

Mae Dr Elisabeth El Refaie , sy’n ddarllenydd mewn Iaith Saesneg a Chyfathrebu, wedi defnyddio ei harbenigedd i helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cysylltiedig â iechyd.  Trwy greu gweithdai lluniadu i gasglu ac yna rhannu meddyliau a theimladau pobl ynghylch afiechydon sensitif, mae ei gwaith ymchwil wedi helpu i fynd i’r afael â phrofiadau o fod yn ddiffrwyth ymhlith benywod du ac o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac annog rhannu negeseuon iechyd pwysig am HIV ac Ebola ar gyfandir Affrica.

Cyrhaeddodd ei llyfr cyntaf, Autobiographical Comics:Life Writing in Pictures, y rhestr fer ar gyfer Gwobrau enwog y Will Eisner Comic Industry Awards 2013 yng nghategori’r Gwaith Ysgolheigaidd/Academaidd Gorau.

Cyhoeddir Visual Metaphor and Embodiment in Graphic Illness Narratives gan Oxford University Press.

Rhannu’r stori hon