Ewch i’r prif gynnwys

Athro i arwain Diwrnodau Datblygu Proffesiynol Parhaus Contractau RIBA

1 Chwefror 2019

Student workshop

Mae’r Athro Sarah Lupton yn cynnal cyfres o weithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) diwrnod o hyd ledled y DU ar ran Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Bydd y gweithdai’n cyflwyno ystod newydd o Gontractau Gwasanaethau Proffesiynol RIBA, Contractau Adeiladu RIBA a Gwarantau Cyfochrog a Chytundebau Newyddu Cyngor y Diwydiant Adeiladu (CIC) i benseiri a gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig.

Yn ystod pob gweithdy, bydd yr Athro Lupton yn ystyried dewis y ddogfen benodi a chytundeb adeiladu priodol ar gyfer amrywiaeth o drefniadau caffael. Bydd yn egluro termau allweddol ym mhob dogfen a’u heffaith ar ddosbarthu risg rhwng y partïon a lefel a chwmpas atebolrwydd y gweithiwr proffesiynol. Hefyd, bydd yn ystyried defnyddio cytundebau newyddu a gwarantau cyfochrog, a’r berthynas rhwng y dogfennau hyn a’r contractau am wasanaethau proffesiynol.

Bydd yr Athro Lupton yn cynnal naw gweithdy undydd yn rhan o raglen CPD RIBA. Cynhelir y gweithdai ledled y DU. Gweler gwefan CPD Cytundebau RIBA i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gadw lle.

Yr Athro Lupton sy’n arwain y Diploma mewn Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru: Ymarfer Proffesiynol (rhaglen Rhan 3 RIBA), a Gradd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio. Mae hi’n bartner i benseiri Lupton Stellakis ac yn Gymrodeddwr Siartredig, dyfarnwr a thyst arbenigol gyda chysylltiadau helaeth â’r diwydiant adeiladu a’r alwedigaeth bensaernïol. Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd dros Banel Atebolrwydd CIC, yn Hyrwyddwr Atebolrwydd CIC ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Llywydd RIBA ar gyfer Datrys Anghydfodau.

Rhannu’r stori hon