Ewch i’r prif gynnwys

Mae Prifysgol Caerdydd bellach yn cynnig gwasanaeth dadansoddi lipidomeg

29 Ionawr 2019

Analysing data
Analysing data

Mae ein cyfleuster yn cynnal tri sbectrometreg màs sydd yn addas ar gyfer dadansoddiad lipidomig. Mae technegau ar gael i wahanu, adnabod a mesur cymysgeddau cymhleth o lipidau o amrediad eang o samplau biolegol.

Offer

Prosesu sampl

  • Mae cefnogaeth technegwyr ar gael i echdynnu lipidau o’ch samplau biolegol gan ddefnyddio’r protocolau gorau.
  • Mae technoleg Beadruptorar gael sy’n ein galluogi i brosesu ystod eang o feinweoedd, gan gynnwys esgyrn.
  • Mae gan y cyfleusterau robot sy’n trin hylif Tecan i gael trwygylch sampl uchel.

LC/MS

Sbectrometreg màs Quad Q triphlyg

  • Sciex 4000 Q trap (ïoneiddio ES)
  • Sciex 6500 Q trap (ïoneiddio ES)

Gwasanaethau dadansoddol a thechnegol

Rydym yn cynnig gwasanaethau dadansoddol a thechnegol trwy ein harbenigwyr ym maes casglu a dehongli data, gyda mynediad at amrywiaeth eang o offer dadansoddi.

P’un ai dadansoddiad o sampl sengl sydd ei angen, neu ddadansoddiad mwy cynhwysfawr o nifer o samplau gan ddefnyddio sawl techneg, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig yr atebion sydd eu hangen arnoch.

Efallai eich bod yn fiocemegydd profiadol ac yn gwybod yn union pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ond os nad ydych, gallwn eich helpu i gael hyd i'r hyn y mae angen i chi ei wybod a sut i gyrraedd eich nod.

Nodwch fod y cyfleuster hwn yn rhan o Brifysgol Caerdydd, ond nid o fewn cyfleuster technoleg Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog Prifysgol Caerdydd. O ganlyniad, nid yw o fewn cwmpas achrediad ISO 9001:2015.

I drafod eich anghenion, cysylltwch â:

Dr Victoria Tyrrell

Dr Victoria Tyrrell

Lipidomics Facility Manager

Email
tyrrellvj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7315

Rhannu’r stori hon