Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Blwyddyn Ryngwladol y Tabl Cyfnodol

21 Ionawr 2019

BBC Studios Cardiff

Mae Dr David Willock, Darllenydd mewn Cemeg Ddamcaniaethol a Chyfrifiadurol, a Dr Rebecca Melen, Uwch - ddarlithydd mewn Cemeg Anorganig a Chymrawd ar Ddechrau Gyrfa EPSRC, wedi cymryd rhan ar raglen Science Cafe BBC Radio Wales i ddathlu etifeddiaeth 150 mlynedd y tabl cyfnodol.

Ar y rhaglen, maent yn trafod rôl hanfodol y tabl yn ein dealltwriaeth o'r elfennau sy'n ffurfio ein bydysawd.

Dyfeisiwyd a chyhoeddwyd y tabl cyfnodol modern cyntaf ym 1869 gan y fferyllydd Dmitri Mendeleev o Rwsia. Ei brif ddiben oedd egluro tueddiadau cyfnodol yr elfennau oedd yn hysbys ar y pryd. Ers hynny, mae'r tabl cyfnodol wedi ehangu i gynnwys 118 o elfennau hysbys.

Darlledwyd y bennod hon o Science Cafe ar BBC Radio Wales am 6.30pm ar 15 Ionawr 2019. Gallwch wrando ar y rhaglen ar wefan y BBC.

Rhannu’r stori hon