Gwobrau ar gyfer IQE, partner Prifysgol Caerdydd
24 Medi 2015
Mae partner busnes Prifysgol Caerdydd, IQE, wedi ennill dwy o brif wobrau Gwobrau Busnes Caerdydd, y tro cyntaf i'r seremoni flynyddol gael ei chynnal
Pleidleisiwyd ar gyfer y cwmni o Laneirwg, sy'n bartner i Brifysgol Caerdydd mewn menter newydd ar y cyd i ddatblygu lled-ddargludyddion cyfansawdd y genhedlaeth nesaf, fel Busnes y Flwyddyn a Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn.
Prifysgol Caerdydd oedd yn noddi'r Wobr Technoleg ac Arloesedd yn y digwyddiad mawreddog. Cyflwynodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol, y wobr i Genesis Biosciences, cwmni byd-eang sy'n datblygu cynhyrchion microbaidd a gwrthficrobaidd diogel a naturiol.
Cynhaliwyd Gwobrau Busnes Caerdydd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, ac roedd 12 o enillwyr ar y noswaith. Derbyniodd prif weithredwr y cwmni FTSE 100 Admiral, Henry Engelhardt, wobr arbennig gan y beirniaid am ei gyfraniad at economi'r brifddinas.
Cefnogwyd y gwobrau hyn, a gynhaliwyd am y tro cyntaf, gan amrywiaeth o sefydliadau lleol, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd. Sefydlwyd y gwobrau i ddathlu llwyddiannau entrepreneuriaid yn y brifddinas. Yn y rownd derfynol, roedd cyfanswm o 48 o fusnesau, o amrywiaeth eang o sectorau, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 14 o gategorïau, gan gynnwys busnes twristiaeth a hamdden y flwyddyn, person busnes ifanc y flwyddyn a busnes manwerthu'r flwyddyn.