Ewch i’r prif gynnwys

Y dyfodol ar gyfer Ieithyddiaeth Corpws

21 Rhagfyr 2018

Arbenigwyr rhyngwladol yn dod ynghyd i drafod cyfeiriad i’r dyfodol am y tro cyntaf yng Nghymru

Bydd academyddion sy’n arbenigo mewn astudiaethau iaith yn mynd i brifddinas Cymru ar gyfer 10fed Cynhadledd Ryngwladol Ieithyddiaeth Corpws yn 2019.

Yn y gorffennol mae’r gynhadledd ddwyflynyddol, sydd wedi bod yn digwydd ers 2001, wedi cael ei chynnal ar draws y Deyrnas Unedig mewn prifysgolion sy’n cynnwys Prifysgol Lancaster, Prifysgol Lerpwl, a Phrifysgol Birmingham.

Nod y gynhadledd ddwyflynyddol, sy’n cael ei chynnal gan Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu’r Brifysgol, yw tynnu sylw at yr heriau mae Ieithyddiaeth Corpws yn eu hwynebu, trwy edrych yn fanwl ar amrywiaeth o gipluniau byw o ymchwil gyfredol.

Dywedodd Dr Dawn Knight, arweinydd pwyllgor trefnu CL2019:

‘Nod CL2019 yw tynnu sylw at rai o’r heriau a’r cyfleoedd y mae ieithyddiaeth corpws wedi dod ar eu traws, sy’n dal i ddigwydd, ac sy’n debygol o godi yn y dyfodol.  Mae’n cynnig ciplun o’r amrywiol safbwyntiau y mae ieithyddiaeth corpws yn eu darparu, o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd gwahanol, a bydd yn helpu i amlinellu gwerth defnyddio’r dull gweithredu ieithyddol hwn i ymchwilio i ystod o gwestiynau, materion a phroblemau byd go iawn’.

Dull empirig o astudio iaith yw ieithyddiaeth corpws, ar sail casgliadau bywyd go iawn o iaith sy’n cael ei defnyddio neu corpora. Adnodd electronig yw corpws, felly gall defnyddwyr ddefnyddio corpora i ddarganfod, er enghraifft, pa mor aml mae gair penodol yn cael ei ddefnyddio, neu sut mae patrymau ystyr yn cael eu datblygu trwy ddefnyddio dilyniannau o eiriau.

Bydd ffigurau rhyngwladol blaenllaw yn y maes, Svenja Adolphs (Nottingham), Tony McEnery, (Lancaster), Bróna Murphy (Caeredin), Hilary Nesi (Coventry) ac Elena Semino (Lancaster) yn ymuno â’r drafodaeth fel siaradwyr sesiwn lawn.

Noddir y gynhadledd gan John Benjamins Publishing Company, Elsevier Linguistics, Edinburgh University Press, Palgrave Macmillan, y cylchgrawn iaith chwarterol Babel a Choleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Cynhelir 10fed Cynhadledd Ryngwladol Ieithyddiaeth Corpws am bum niwrnod ym Mhrifysgol Caerdydd (22– 26Gorffennaf 2019).  I gael y newyddion diweddaraf, gan gynnwys rhestrau diweddaraf y rhaglen, ewch i wefan y gynhadledd neu dilynwch y gynhadledd ar Twitter @CLconf2019.

Rhannu’r stori hon