Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr PhD Prifysgol Caerdydd yn mynd i Gynhadledd Rhwydwaith Ecoleg ac Esblygiad Cymru

19 Rhagfyr 2018

Student presenting on stage at WEEN Conference

Myfyrwyr PhD Prifysgol Caerdydd yn helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy, gan rannu eu hymchwil yng Nghynhadledd Rhwydwaith Ecoleg ac Esblygiad Cymru.

Ar Tachwedd 23, teithiodd myfyrwyr o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd i Barc Cenedlaethol Eryri i gymryd rhan yn y bumed gynhadledd flynyddol dan arweiniad myfyrwyr yn y Ganolfan Technoleg Amgen.

Mae adran Organebau a’r Amgylchedd Ysgol y Biowyddorau yn ganolfan arbenigedd, sy’n canolbwyntio ar fioleg organebau cyfan, eu rolau a’u rhyngweithiadau mewn ecosystemau sy’n newid, mewn heintiau ac iechyd, ac ar lefel enetig.

Rhannodd myfyrwyr PhD o’r adran eu hymchwil yn y gynhadledd. Roedd yn cwmpasu ystod o bynciau gan gynnwys bioleg byd natur, cadwraeth ecoleg, epidemioleg a bioamrywiaeth.

Dr Niall McCann, myfyriwr PhD graddedig, a lansiodd y gynhadledd. Fe rannodd ei waith ar linell flaen cadwraeth ar draws y byd, a dyfarnwyd gwobr am y cyflwyniad poster gorau i Lorna Drake, cynadleddwr o Brifysgol Caerdydd.

Rhoddodd y Gynhadledd Rhwydwaith Ecoleg ac Esblygiad Cymru sylw i eneteg, cadwraeth, ecoleg ac esblygiad, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr drafod eu gwaith gydag ymchwilwyr yn y maes sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Student stood in front of their poster presentation at WEEN Conference

Dywedodd Rebecca Young, Myfyriwr PhD o Ysgol y Biowyddorau: “Mae’r gynhadledd hon o dan arweiniad myfyrwyr yn rhoi llwyfan unigryw i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd i gyflwyno eu gwaith. Mae’r siaradwyr yn cynnwys nifer o fyfyrwyr PhD blwyddyn gyntaf sydd eisoes yn cael profiad o gyflwyno eu gwaith sydd ar y gweill.

“Rhoddodd y gynhadledd gyfle i ni rwydweithio a bydd yn hwyluso partneriaethau, rhywbeth sy’n hanfodol i ni fel myfyrwyr PhD a’n hymchwil ar gyfer y dyfodol. Gyda lwc, bydd hyn yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu ein byd.”

Rhannu’r stori hon