Ewch i’r prif gynnwys

Global exploration consultancy host “speed-dating” careers event

17 Rhagfyr 2018

SRK careers event 2018

Trefnodd y cwmni rhyngwladol SRK Consulting ddiwrnod gyrfaoedd ar gyfer myfyrwyr daeareg ac archwilio ym mis Tachwedd.

Aeth tua 25 o fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy’n astudio BSc Daeareg Fforio ac Adnoddau a BSc Daeareg Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr i'r digwyddiad gyrfaoedd, a drefnwyd gan swyddfa SRK yng Nghaerdydd. Hwn yw'r ail ddigwyddiad o'i fath. Trefnwyd y cyntaf yn 2017 gan un o weithwyr SRK Dr Lucy Roberts, a raddiodd o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr.

Aeth wyth o weithwyr SRK, sy'n arbenigo mewn mwyngloddio, fforio, daeareg adnoddau ac amgylcheddol a llu o feysydd eraill, i'r digwyddiad i sgwrsio gyda myfyrwyr a thrafod eu diddordebau a’u cynlluniau gyrfaol. Yn ogystal, cafodd myfyrwyr y cyfle i siarad am waith SRK, a'r cyfleoedd posibl i raddedigion mewn daeareg fforio, daeareg adnoddau, daeareg mwyngloddio, hydroddaeareg, geocemeg, peirianneg geotechnegol/daeareg peirianneg, economeg mwynau a swyddi arwain/rheoli prosiectau.

Mae SRK Consulting yn gwmni ymgynghori annibynnol a rhyngwladol sy'n cynnig cyngor ac atebion penodol i ddiwydiannau adnoddau tir a dŵr. Sefydlwyd SRK ym 1974, ac mae'n cyflogi dros 1,400 o weithwyr proffesiynol ar draws y byd, mewn dros 45 o swyddfeydd ar 6 chyfandir.

Mae gan Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr berthynas agos â SRK Consulting, ac mae llawer o raddedigion wedi'u cyflogi yno. Rydym yn ddiolchgar i SRK am gyfrannu i'r digwyddiad llwyddiannus hwn, sydd wedi cael ymateb da. Mae staff SRK yn cynnig darlithoedd arbenigol hefyd ar ambell fodiwl ac yn mynd i seminarau'r Ysgol.

Rhannu’r stori hon