Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda Chyfieithu - cwrs rhagflas yn dechrau yn 2019

12 Rhagfyr 2018

Bydd cwrs ar-lein rhad ac am ddim sy’n pwysleisio pwysigrwydd cyfieithu yn lansio ei bumed sesiwn ar ddechrau 2019.

Lansiwyd Gweithio gyda Chyfieithu, sy’n cael ei gynnal gan yr Ysgol Ieithoedd Modern mewn cydweithrediad â Future Learn, am y tro cyntaf yn 2016 ac mae wedi cynnal pedair fersiwn lwyddiannus i dros 33,000 o bobl ers hynny.

O iechyd i’r system gyfiawnder, o’r sector gwirfoddol i chwaraeon a’r celfyddydau, rydym i gyd yn byw ac yn gweithio’n fwyfwy mewn cyd-destunau lle mae pobl yn siarad mwy nag un iaith.

Mae cyfieithu yn broffesiwn sy’n dyddio’n ôl i’r trydydd mileniwm BCE ac mae’n un o’r gweithgareddau dynol mwyaf sylfaenol sy’n ein galluogi i ryngweithio â’n gilydd o fewn ac ar draws diwylliannau. Rydym i gyd yn dod i gysylltiad â chyfieithu yn ein bywyd bob dydd, p’un a ydym yn siarad llawer o ieithoedd neu un iaith yn unig.

Mae dysgwyr o bedwar ban byd wedi cofrestru ar gyfer y cwrs ar-lein ers iddo ddechrau, gyda phobl o’r DU, Brasil, Rwsia, yr Aifft a’r UDA yn creu’r garfan fwyaf. Mae dysgwyr o bob oedran wedi cofrestru ond mae’r cwrs yn arbennig o boblogaidd ymysg pobl rhwng 26 a 35 mlwydd oed.

Chilé Fernandez

Un dysgwr o’r fath yw Chilé C.I. Fernandez, sy’n 29 oed ac yn dod o’r Bahamas.  Anfonwyd dolen i’r cwrs ar-lein at Chilé cyn iddi ddechrau ei gradd israddedig, ac mae hi bellach yn fyfyriwr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Mae Chilé yn siaradwr Saesneg a Bahamian Creole brodorol.

Wrth siarad am ei phrofiad o Gweithio gyda Chyfieithu, dywedodd Chilé: “Roedd yn dangos addewid rhagorol bod yr Ysgol wedi anfon y cwrs ataf fel rhagflas. Rwyf wedi mwynhau dysgu am yr hanes tu ôl i gyfieithu, y terminoleg a ddefnyddir yn y maes hwn, ei bartneriaeth gyda dehongli a’r nifer o sgiliau a gaiff eu datblygu wrth fod yn gyfieithydd/dehonglwr.

“Byddwn yn sicr yn argymell Gweithio gyda Chyfieithu i eraill.  Byddwch yn dysgu am waith astrus Cyfieithu/Dehongli, ond byddwch hefyd yn magu arbenigedd cyffredinol yn y maes a gobeithio, fel fi, yn ennyn llawer o frwdfrydedd am y proffesiwn.”

Mae sesiwn nesaf Gweithio gyda Chyfieithu yn dechrau ar 14 Ionawr 2019. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Future Learn.

Rhannu’r stori hon