Ewch i’r prif gynnwys

Fferylliaeth yn cael Cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth y Brifysgol

7 Rhagfyr 2018

Pharmabees
Pharmabees: Dr Jen Wymant, Rhys Thomas, Justine Jenkins

Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd eu Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth blynyddol ddydd Mercher 21 Tachwedd, a bu dau dîm o'r Ysgol Fferylliaeth yn rhan o’r rownd derfynol yn eu categorïau perthnasol. Cynhaliwyd y digwyddiad mawreddog yn Neuadd Fawr Undeb y Myfyrwyr.

Yn y categori ar gyfer Tîm Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn, cyrhaeddodd tîm Gwasanaethau Technegol yr Ysgol rownd derfynol oherwydd eu hymdrechion rhagorol wrth helpu i gynnal labordai’r Ysgol yn hwylus ac yn effeithlon. Dyma’r hyn ddywedodd y Rheolwr Adnoddau Technegol, Denise Barrow am ei chydweithwyr, “Rwy’n falch iawn o’m tîm ac mae’n ffantastig bod eu cyfraniad wedi cael y fath gydnabyddiaeth gan yr Ysgol a’r Brifysgol.”

Technical Services Team
Technical Services: Vince Moore, Denise Barrow, Thomas Woolley, Alice Rourke, Matt Smith, Thomas Robertshaw, Nadia Schramm

Yn y wobr am Ragoriaeth mewn Cenhadaeth Ddinesig, rhagorodd Pharmabees ar rai cystadleuwyr campus eraill gan gipio’r brif wobr. Cychwynnodd prosiect Pharmabees drwy ymchwilio i briodoleddau gwrthfacteria mêl ac mae bellach yn rhaglen allgymorth cyhoeddus enfawr. Yn rhan o hyn, mae gwyddonwyr microbioleg wedi ymgysylltu ag ysgolion ar draws de Cymru er mwyn drafod STEM a chorddi cyffro ymysg plant am y cyfleoedd y mae gwyddoniaeth yn eu cynnig.

Yn 2017, cynhaliodd Dr James Blaxland Glwb Gwyddoniaeth i Ysgolion. Yn rhan o hyn cafodd wyth ysgol gynradd yng Nghasnewydd eu haddysgu am wenyn a bacteria. Canlyniad hyn oedd bron pum cant o blant yn ymweld ag Adeilad Redwood i gael blas ar fywyd prifysgol a'r math o waith sy’n cael ei wneud yn y labordai. Eleni, mae Dr Jennifer Wymant wedi bod yn cynnal Sesiynau Gwyddoniaeth, prosiect tebyg yn ardal Cathays yng Nghaerdydd, ac sydd hefyd yn cynnwys adnoddau ar-lein a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon.

Dywedodd yr Athro Les Baillie, sy'n bennaeth ar fenter Pharmabees, "Mae'r prosiect yn cynrychioli ymdrech gan y tîm i gyd ac yn adlewyrchu natur golegol a chymuned agos yr Ysgol Fferylliaeth."

Rhannu’r stori hon