Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Newyddiaduraeth 2019: Galwad am bapurau'n agor

5 Rhagfyr 2018

Keyboard with a green email button
Dylid cyflwyno crynodebau cyn 31 Ionawr 2019.

Mae'r galwad am bapurau ar gyfer seithfed gynhadledd Dyfodol Newyddiaduraeth, ym mis Medi 2019, wedi agor.

Mae'r galwad am bapurau ar gyfer seithfed gynhadledd Dyfodol Newyddiaduraeth, ym mis Medi 2019, wedi agor.

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) Prifysgol Caerdydd fydd lleoliad y gynhadledd a gynhelir bob dwy flynedd, ac eleni bydd yn canolbwyntio ar y thema "Arloesedd, Pontio a Thrawsnewid".

Cynhelir y gynhadledd yng nghartref newydd yr Ysgol, yng nghanol dinas Caerdydd, a bydd yn cael ei noddi gan Routledge / Taylor & Francis.

Y prif siaradwyr fydd yr Athro Andrew Chadwick (Prifysgol Loughborough), yr Athro Adrienne Russell (Prifysgol Washington), a'r Athro Nikki Usher (Prifysgol George Washington).

Croesewir cyfraniadau ar bob agwedd o newyddiaduraeth. Gallai'r canlynol fod ymhlith y materion i'w trafod:

  • Sut mae'r modd y caiff newyddiaduraeth ei diffinio yn newid mewn ecosystem newyddion sy'n esblygu?
  • Pa ddyfodol sydd gan newyddiadurwyr yn yr oes sydd ohoni, mewn amgylchedd sy'n cael ei lunio'n gynyddol gan ddeallusrwydd artiffisial, data mawr, prosesu algorithmig ac arferion newyddiadurol "trothwyol"?
  • Sut mae safonau ansawdd, cydbwysedd a thegwch yn newid?
  • Beth yw'r ffordd orau o annog diwylliannau newydd sy’n rhoi pwyslais ar arbrofi ac arloesedd?
  • Sut ddylai astudiaethau newyddiaduraeth ymateb i'r newid hwn, yn gysyniadol ac yn fethodolegol?

Yn ôl yr Uwch-ddarlithydd a chyd-drefnydd y gynhadledd, Dr Mike Berry, "Caiff detholiad o bapurau a gyflwynwyd eu cyhoeddi mewn rhifynnau arbennig o'r cyfnodolion Digital Journalism, Journalism Practice a Journalism Studies.

"Dylai awduron gyflwyno eu crynodebau drwy ebostio: FofJ2019@caerdydd.ac.uk. Rydym yn gofyn i awduron beidio â chyflwyno mwy nag un crynodeb fel prif awdur, ac i beidio â chyflwyno mwy na dau grynodeb i gyd."

Dylid cyflwyno crynodebau cyn 31 Ionawr 2019. £250 fydd y ffi cofrestru (£200 i fyfyrwyr ôl-raddedig).

Cysylltwch â Bina Ogbebor i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon

Our new course prepares you to work in one of the UK's fastest growing industries.