Ewch i’r prif gynnwys

Carreg filltir i raglen ar ei newydd wedd i ddisgyblion

29 Tachwedd 2018

Ikram
Ikram

Mae tua 160 o ddisgyblion o grwpiau sy’n agored i niwed ac o dan anfantais wedi dathlu carreg filltir o bwys ar gyfer rhaglen academaidd Prifysgol Caerdydd sydd wedi’i hailwampio.

Mae Camu ‘Mlaen yn gynllun dwy flynedd rhad ac am ddim sy’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg i lwyddo yn y brifysgol.

Mae’n cynnwys gweithgareddau, digwyddiadau, gweithdai a chymorth ymarferol i helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial.

Mae Camu ‘Mlaen ar ei newydd wedd wedi ei gryfhau ymhellach i gynnwys cwrs prifysgol byr a’r cyfle i fynd i ysgol breswyl yn ystod yr haf am ddau ddiwrnod.

Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd ddigwyddiad i ddathlu yng Nghanolfan Ôl-raddedig Ysgol Busnes Caerdydd ar 28 Tachwedd i’r rheini sy’n cwblhau’r rhaglen newydd.

Ikram taking part in practical

Mae Ikram, 17, o Dremorfa yng Nghaerdydd, eisiau astudio meddygaeth a dywedodd y byddai hi “ar goll” ar yr adeg hon heb Camu ‘Mlaen.

“I mi, roedd [Camu ‘Mlaen] yn agoriad llygad. Cefais y cyfle i gwrdd â myfyrwyr a roddodd gipolwg i mi ar y cwrs, y gofynion academaidd a beth arall sydd angen i mi ei wneud i helpu fy hun”, meddai.

Ikram fyddai’r gyntaf o’i theulu i fynd i brifysgol ac, ar ôl cwblhau’r rhaglen, mae hi’n benderfynol o lwyddo.

Dywedodd: “Mae’r ffaith mai fi yw’r genhedlaeth gyntaf yn gallu bod yn anodd. Does neb yn deall y mathau o heriau y gallech fod yn eu hwynebu.

Ers Blwyddyn Chwech, rydw i wedi mynnu mai meddyg fyddai i ryw ddiwrnod, ac rwy’n dal i deimlo felly, hyd yn oed os bydd hynny’n 10 mlynedd neu bump!

Ikram

Mae’r bobl ifanc yn dewis o bum ffrwd - Gofal Iechyd, Dyniaethau, Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddor Gymdeithasol.

Drwy’r sesiynau misol, maent yn datblygu sgiliau cyflwyno, dadansoddi ac ymchwil.

Bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor academaidd ac, yn amodol ar delerau ac amodau, bydd y rhai sy’n mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael bwrsariaeth sy’n seiliedig ar brawf modd.

Dywedodd Scott McKenzie, Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth Cymunedol y Brifysgol: “Ein nod yw cael gwared ar gynifer o rwystrau â phosibl i gyrraedd addysg uwch felly ein rhaglen hon ar ei newydd wedd yw’r un fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn.

“Rwy’n hyderus y bydd gan y bobl ifanc deallus ac uchelgeisiol hyn y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt i wireddu eu potensial ar ôl iddynt adael y chweched dosbarth a’r coleg.”

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw cynnig hyblygrwydd a dewis yn ein rhaglenni, yn ogystal â datblygu llwybrau mynediad ychwanegol.