Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu ein staff yng ngwobrau blynyddol y Coleg Nyrsio Brenhinol

23 Tachwedd 2018

Michelle Moseley award
Enillodd Michelle Moseley y Wobr Diogelu, a ariennir gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Mae Staff o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi cael eu cydnabod gan y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn seithfed Seremoni Nyrs y Flwyddyn yn 2018.

Mae’r gwobrau’n agored i’r holl nyrsys, myfyrwyr, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd yng Nghymru. Maent yn arddangos y cryn dalent sydd yn y diwydiant.

Casglodd Michelle Moseley, darlithydd mewn Gofal Cychwynnol a Nyrsio Iechyd Cyhoeddus a Dr Aled Jones, Darllenydd mewn Diogelwch Cleifion ac Ansawdd Gofal Iechyd o Brifysgol Caerdydd, eu Gwobrau Nyrsio RCN 2018 mewn cinio dathlu yng Nghaerdydd ddydd Mercher 14 Tachwedd 2018 lle daeth llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru.

Mae'r Gwobrau'n gyfle gwych i gynnig cydnabyddiaeth i nyrsys y mae eu hymarfer yn rhagori. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael eu henwebu gan gydweithwyr, cleifion a'r cyhoedd yn gyffredinol er mwyn cydnabod eu hymroddiad a'u sgiliau. Panel o arweinwyr nyrsio nodedig sy'n dewis yr enillwyr.

Enillodd Michelle Moseley y Wobr Diogelu, a ariennir gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, yn seremoni wobrwyo Nyrs y Flwyddyn a gynhelir gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru. ‘Cefais fy enwebu oherwydd fy mhrofiad a gwaith o ddiogelu, o ran plant a phobl ifanc yn arbennig. Ymysg pethau eraill, lluniais bolisi er mwyn helpu ymwelwyr iechyd i ymateb i alwadau cynhadledd ynglŷn â Cham-drin Domestig. Rwyf wedi parhau i gydweithio’n agos â byrddau iechyd mewn perthynas â diogelu. Yn ddiweddar, ymgymerais ag astudiaeth beilot i werthuso effaith newid goruchwyliaeth diogelu. Ar ben hynny, mae fy PhD yn astudiaeth ethnograffig sy’n ystyried pa mor effeithiol yw goruchwyliaeth diogelu ar gyfer ymwelwyr iechyd sy’n gweithio mewn ardaloedd difreintiedig’ meddai.

Aeth Michelle ymlaen, 'roedd y seremoni'n codi'r ysbryd ac ysbrydoledig. Yn wir, gwnaeth imi deimlo'n falch o fod yn nyrs yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at ymgymryd â fy ymchwil a gobeithio bydd hyn yn cynorthwyo Ymarfer SCPHN yng Nghymru a ledled y DU o bosibl’.

Enillodd Dr Aled Jones Wobr Nyrs y Flwyddyn am Gefnogi Gwelliannau drwy Ymchwil gan RCN Cymru. Dywedodd ‘cefais fy enwebu am fy nghyfranogiad at ymchwil iechyd dros y pymtheng mlynedd diwethaf, sydd wedi canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion, ansawdd gofal iechyd a lles staff yn y GIG. Yn ystod y cyfnod hwn, rydw i wedi arwain timau ymchwil, datblygu ymchwilwyr a goruchwylio sawl PhD, gradd Meistr a myfyrwyr israddedig. Mae trosi ymchwil i newidiadau effeithiol o fewn y GIG drwy weithio gyda chydweithwyr clinigol, cleifion, y cyhoedd a llunwyr polisïau wedi bod yn elfen bwysig o'r gwaith.

Dywedodd Dr Jones ei fod yn 'teimlo'n wych ennill ac mae wedi cynnig cyfle (prin) i fyfyrio ar fy hynt hyd yn hyn. Mae maes ymchwil nyrsio a gofal iechyd yn gallu bod yn heriol iawn weithiau, ond mae’n brofiad sy'n rhoi boddhad hefyd. Mae’n fonws, felly, cael cydnabyddiaeth gan fy nghydweithwyr, yn arbennig am wneud swydd rwy’n ei mwynhau cymaint. Bydd y wobr yn fy sbarduno i fynd ymhellach!’

Cawsom nifer o wobrau, gan gynnwys y canlynol:

  • Kerry Phillips (Darlithydd Bydwreigiaeth) – Cyd-enillydd y Wobr Plant a Bydwreigiaeth
  • Nerys Kirtley (Darlithydd Cyswllt Bydwreigiaeth) – Enillydd y Wobr Mentora
  • Myfyrwyr  – Bethan Ingram (Ymddiriedolaeth Caerdydd a’r Fro) – Enillydd Gwobr Nyrsio Uwch a Nyrsio Arbenigol
  • Charlotte Bloodworth (Caerdydd a’r Fro) – Ail safle Gwobr Arloesi mewn Nyrsio
  • Cathryn Smith, (Darlithydd Gofal Cychwynnol) - Ail Safle Gwobr Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

I ddysgu mwy am y meini prawf ar gyfer y gwobrau, gweler Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Rhannu’r stori hon