Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleuster e-ddysgu gwerth £1.9 miliwn i roi hwb i ddysgu ac addysgu arloesol

23 Tachwedd 2018

COMPUTER ROOM

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynyddu capasiti ar gyfer addysgu blaengar ac arloesol drwy agor Cyfleuster e-Ddysgu ac e-Asesu newydd sbon (eLEAF). 

Wedi ei leoli ar gampws Cathays yn adeilad Syr Martin Evans, rhan o Ysgol y Biowyddorau, mae'r cyfleuster eLEAF newydd wedi cael ei ariannu fel rhan o raglen Datblygu Mannau Dysgu Ffisegol ar y Campws Prifysgol Caerdydd, sy’n werth £41 miliwn.  Mae’r gofod hwn yn cynnwys 165 o gyfrifiaduron gweithfan newydd, a chan fod y waliau pared yn rhai aml-swyddogaeth sy’n gallu llithro a chreu parthau, mae modd darparu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, o hyfforddiant ac astudio preifat i addysgu grwpiau bach a mawr a dosbarthiadau ymarferol.  

Mae'r cyfleuster newydd yn darparu mynediad i system AV rhyngweithiol, podiau gwaith ‘huddle’, cyfathrebu amlgyfrwng, a chyfleusterau delweddu, a fydd yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau addysgu rhyngweithiol, ac yn gwella profiad dysgu myfyrwyr yn gyffredinol.

Yn ogystal â galluogi mabwysiadu addysgu blaengar drwy ddysgu seiliedig ar gyfrifiadur a dulliau cyfrifiadurol, bydd eLEAF hefyd yn cynnig darpariaeth ar gyfer asesiadau electronig, fel bod modd gwella cyflymdra ac effeithlonrwydd asesiadau a helpu i ymateb i’r galw cynyddol gan fyfyrwyr am adborth mwy buan ar waith a gyflwynwyd.

"Mae'r cyfleuster newydd hwn yn cynrychioli buddsoddiad cyfalaf o £1.9 miliwn gan Brifysgol Caerdydd ac mae’r ffaith ein bod yn cynnal y cyfleuster hwn yn arwydd o'n hymrwymiad fel Ysgol i ehangu cyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol, addysgu blaengar ac ymchwil arloesol" meddai’r Athro Stephen Rutherford, Cyfarwyddwr Addysg israddedig yn Ysgol y Biowyddorau.

"I ni, un o fanteision cyffrous eLEAF yw y bydd yn caniatáu inni i gynyddu'n sylweddol ein capasiti addysgu israddedig ac ôl-raddedig ym meysydd bio-wybodeg, dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar fodelu cyfrifiadurol a bioleg sy’n cael ei ysgogi gan ddata.  

Mae mynediad i setiau data digidol mawr yn realiti cynyddol ar gyfer holl feysydd y biowyddorau, o fodelu protein, i genomeg, ac ecoleg y dirwedd.  Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddelweddu’r data hwn, rhyngweithio ag ef a’i ddadansoddi, a bydd yr adnodd AV ac amlgyfrwng a geir yn eLEAF yn hwyluso ein haddysgu yn y meysydd bioleg newydd hyn, sy’n dod i’r amlwg. "

Ychwanegodd yr Athro Jim Murray, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau:


"Rydym yn falch iawn o gynnal y cyfleuster newydd hwn. Mae gennym enw da am ragoriaeth wyddonol, addysgu a arweinir gan ymchwil a dysgu arloesol, a hynny fel Ysgol a Phrifysgol. Bydd y cyfleuster newydd eLEAF yn caniatáu inni adeiladu ar ein llwyddiannau drwy gefnogi cwricwlwm sy'n arwain y Deyrnas Unedig yn achos myfyrwyr gwyddorau bywyd, ac a fydd, ar lefel ehangach, yn darparu gwerth ychwanegol go iawn i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd."

Rhannu’r stori hon