Ewch i’r prif gynnwys

Y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ariannu ymchwil glioblastoma

21 Tachwedd 2018

Dr Florian Siebzehnrubl and his lab outside of the Haydn Ellis Building

Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu cael cipolwg ar ganser ymennydd ymosodol, diolch i fuddsoddiad mawr gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Mae Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Prifysgol Caerdydd, wedi cael grant o dros £600,000 i ariannu ymchwil i'r math mwyaf cyffredin o ganser yr ymennydd mewn oedolion.

Ar hyn o bryd does dim modd gwella Glioblastoma, ac mae'r Sefydliad yn gobeithio datgelu gwybodaeth hanfodol am y canser i geisio datblygu triniaethau mwy effeithiol.

Yn ôl Dr Florian Siebzehnrubl, Prifysgol Caerdydd: "Drwy ddeall y mecanwaith sy'n sail i glioblastoma, gallwn ddylunio gwell therapïau sy'n eu targedu nhw’n benodol."

Bydd y grant o £626,000 yn ariannu gwaith a fydd yn ymchwilio i protein FGF2 a'i rôl yn glioblastoma.

Mae gwyddonwyr yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd eisiau deall pam mae FGF2 yn peri i gelloedd canserau'r ymennydd fod yn fwy ymosodol.

"Bydd ein prosiect yn ymchwilio i sut mae FGF2 yn dylanwadu ar wahanol fathau o gelloedd glioblastoma mewn tiwmor.

"Rydym yn ymchwilio i'r ffordd y mae FGF2 yn effeithio ar y gwahanol fathau o gelloedd glioblastoma mewn gwahanol ffyrdd, gyda rhai'n dod yn fwy ymosodol mewn ymateb uniongyrchol i FGF2.

"Credwn fod FGF2 yn glynu wrth wahanol fathau o dderbynyddion ar wahanol fathau o gelloedd.

"Rydym am wahaniaethu'r gwahanol fathau o gelloedd canser yn seiliedig ar eu derbynyddion penodol. Yna, rydym am weld pa dderbynyddion sydd â'r ymateb mwyaf difrifol i FGF2, a ble mae'r celloedd hyn yn y tiwmor.

"Drwy ddeall swyddogaeth FGF2, gallwn gael gwell dealltwriaeth o natur ymosodol glioblastoma a defnyddio hyn i helpu gyda datblygu triniaethau newydd.

"Bydd hyn yn ein helpu i ddefnyddio cyffuriau sy’n targedu’r derbynyddion penodol hyn, a bydd yn darparu modd o ragweld pa gleifion fyddai'n elwa fwyaf o'r therapi hwn,” ychwanegodd Florian.

Rhannu’r stori hon