Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr canser y dyfodol

20 Tachwedd 2018

Event poster for the Cancer Researcher of the Future event

Mae’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn dathlu menywod yn STEM ac mae'n helpu ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser.

Mae digwyddiad Ymchwilwyr Canser y Dyfodol, 28 Tachwedd, yn dod â myfyrwyr Safon Uwch o bob cwr o Gaerdydd ynghyd i ddysgu am yrfa ymchwilydd canser gan wyddonwyr benywaidd sy'n arwain y byd.

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Ymchwil Canser y DU a’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, yn rhan o Bartneriaeth Canser Cymru, wedi dod ynghyd i gynnal digwyddiad i arddangos menywod mewn ymchwil canser a rhannu eu gwaith.

Yn ôl Dr Maddy Young, o Brifysgol Caerdydd: "Fel sefydliad, teimlwn ei fod yn hynod bwysig dathlu menywod mewn ymchwil, ac mae'n bleser arddangos gwaith gwyddonwyr benywaidd wrth ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf gyda'n gwaith.

"Bydd ein gwyddonwyr yn rhannu eu gwaith i godi ymwybyddiaeth am ymchwil bôn-gelloedd canser a thynnu sylw at yr ystod o feysydd y mae ymchwil canser yn eu cynnig.

"Bydd llawer o bethau i fyfyrwyr eu gwneud yn y digwyddiad Ymchwilwyr Canser y Dyfodol, gan gynnwys ystafell pos Dianc o’r Labordy, taith o amgylch Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, profiad realiti rhithwir 360, yn ogystal â sgyrsiau cyffrous gan ymchwilwyr am eu gwaith.

"Byddaf yn rhoi sgwrs am fy ymchwil, a bydd gwyddonwyr o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn dangos i'r myfyrwyr sut brofiad yw gweithio mewn labordy yn ogystal â sôn am lwybr eu gyrfa.

"Gyda lwc, drwy roi cyfle i fyfyrwyr ymweld â’r labordai, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddoniaeth hwyliog a chlywed am ymchwil canser arloesol, gallwn ni helpu gwyddonwyr y dyfodol i wireddu eu potensial."

Rhannu’r stori hon