Gwella amrywiaeth ym mhroffesiwn cadwraeth
20 Tachwedd 2018
Cynfyfyrwyr Cadwraeth yn ymuno â'r drafodaeth
Mae tri chynfyfyriwr ar ddechrau eu gyrfa yn banelwyr gwadd yn nadl neuadd dref gyntaf y Sefydliad Cadwraeth.
Y Sefydliad Cadwraeth (ICON) yw'r corff proffesiynol ar gyfer gwarchod treftadaeth ddiwylliannol. Mae'r digwyddiad yn rhan o gyfarfod cyffredinol blynyddol 2018.
Graddiodd Jenny Matthiason (MSc 2012), Kloe Rumsey (MSc 2013) a Nerys Rudder (MSc 2014) gyda gradd Meistr mewn Arferion Cadwraeth.
A hwythau bellach yn gweithio yn y sector mewn amgueddfeydd ac fel cadwraethwyr mewn awdurdodau lleol, bydd y tri yn trafod beth ddylai'r corff ei wneud i wella amrywiaeth yn y proffesiwn.
Bydd y ddadl yn ystyried y sefyllfa bresennol, y rhwystrau posibl ar hyn o bryd, ac atebion ar gyfer y dyfodol.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ICON a'r Ddadl Neuadd Dref, a gynhelir yn Llundain ar 22 Tachwedd, yn cael ei ffrydio'n fyw ar bodlediad C-Word.
Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn cynnig graddau ar bob lefel ym maes Cadwraeth, o lefel israddedig (BSc Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg) i lefel ôl-raddedig, gan gynnwys MPhil a PhD.