Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i gyfansoddwr o Gaerdydd yn BBC Proms

7 Medi 2015

Arlene Sierra
Dr Arlene Sierra, an American-born composer and Senior Lecturer at the University’s School of Music

Perfformio cyfansoddiad clodwiw gan academydd o'r Ysgol Cerddoriaeth    

Heddiw, bydd cyfansoddwr o Brifysgol Caerdydd yn clywed ei gwaith yn cael ei berfformio yn Neuadd Cadogan, Llundain, fel rhan o dymor blynyddol cyngherddau haf BBC Proms.

Mae cyfansoddiadau Dr Arlene Sierra, cyfansoddwr a aned yn America ac Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, wedi cael eu perfformio ym mhob cwr o'r byd, ond dyma fydd y tro cyntaf i'w gwaith ymddangos ar lwyfan y Proms.

Bydd triawd Nicola Benedetti, Leonard Elschenbroich ac Alexei Grynuk yn perfformio cyfansoddiad clodwiw Dr Sierra, Butterflies Remember a Mountain, ynghyd â Thriawd Piano Rhif 1 ganBrahms.

Canodd y triawd y darn hwn am y tro cyntaf yn Bremen yn 2013, ac ers hynny, maent wedi ei berfformio mewn nifer o leoliadau mawreddog gan gynnwys Concertgebouw Amsterdam, Alte Oper Frankfurt, a Neuadd y Dref Cheltenham.

Fe'i comisiynwyd gan Gymdeithas Ffilharmonig Bremen ar gais Leonard Elschenbroich, yr artist preswyl.

Caiff y cyngerdd ei ddarlledu ar BBC Radio 3 a bydd ar gael ar BBC iPlayer ar ôl hynny.

Mewn cyfweliad yn ddiweddar â Natural Light, gwefan bwrpasol ar gyfer artistiaid a gaiff eu hysbrydoli gan natur, bu Dr Sierra yn trafod agweddau ar fyd natur sy'n ymddangos yn llawer o'i chyfansoddiadau. Ysbrydolwyd y triawd piano Butterflies Remember a Mountain gan batrymau mudo gloÿnnod y llaethlys.

"Rwyf wrth fy modd y bydd un o'm cyfansoddiadau yn cael ei ganu ar BBC Proms am y tro cyntaf, gyda pherfformiad gan yr artistiaid penigamp Nicola Benedetti, Leonard Elschenbroich ac Alexei Grynyuk. Mae'n hynod o arbennig i ddarn newydd gael ei hyrwyddo fel hyn, gan gerddorion sydd wirioneddol o'r radd flaenaf."

Rhannu’r stori hon