Ewch i’r prif gynnwys

Henaint a Chaethwasiaeth Americanaidd

14 Tachwedd 2018

OldAgeSlavery
The Whipping of Old Barney” from 'Life and Times of Frederick Douglass, His Early Life as a Slave, His Escape from Bondage, and His Complete History to this Time' (1881)

Hanesydd yn ymchwilio ar gyfer llyfr newydd

Mae hanesydd o Gaerdydd sy’n arbenigo yn Hanes Gogledd America yn ymgymryd ag ymchwil pellach ar gyfer ei brosiect newydd Henaint a Chaethwasiaeth Americanaidd ar ôl cael grant gan Sefydliad Roosevelt ar gyfer Astudiaethau Americanaidd (RIAS) yn yr Iseldiroedd.

Yn dilyn ei lyfr cyntaf Contesting Slave Masculinity in the American South, bydd Dr David Doddington yn ystyried canfyddiadau o henaint ac agweddau tuag at “hen” bobl yn Ne UDA (1783-1865). Bydd yn canolbwyntio ar brofiadau a hunaniaethau’r caethfeistri a’r caethweision ac yn datgelu goblygiadau henaint ar strwythurau sefydliadol ac ideolegol oedd yn sail i gaethwasiaeth yn Ne UDA.

Yn ei ymchwil ym mis Medi, bydd yn canolbwyntio ar drais, gwrthwynebiad y caethweision a rhyddhau caethweision drwy astudio deunyddiau o lysoedd a’r deisebau a gynhaliwyd yn RIAS.

Mae’n esbonio: “Drwy adrodd am yr hyn ddigwyddodd i bobl gaeth oedd yn ‘eithaf crwca dan bwysau amser a gwaith,’ (Ball, 1859), sut gwnaeth ‘oedran a llafur di-baid,’ (Northup, 1853) effeithio ar strategaethau goroesi, ac ofnau’r caethfeistri y byddent yn colli’r ‘grym’ (Pettigrew, 1858) oedd ei angen am gadw rheolaeth, bydd Old Age and American Slavery yn gwneud cyfraniadau pwysig at drafodaethau hanesyddol ynglŷn â hunaniaethau, pŵer a galluedd o ran caethwasiaeth.

Mae’r Darlithydd ym maes Hanes Gogledd America, sydd wedi ennill Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme, yn ymddiddori’n arbennig mewn astudio gwrthwynebiad, solidariaeth a strategaethau goroesi mewn cymunedau caeth yn Ne UDA.

Rhannu’r stori hon