Ewch i’r prif gynnwys

Presenoldeb gref gan yr Ysgol Fferylliaeth yng Nghynhadledd Feddygol Bio-amddiffyn Munich

14 Tachwedd 2018

Pharmacy in Munich
(O’r dde i’r chwith) Yr Athro Les Baillie, Yr Athro Andrea Brancale, Dr Marcello Bassetto, Dr Joachim Bugert

Roedd gan Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd bresenoldeb amlwg yn yr 16eg Gynhadledd Feddygol Bio-amddiffyn a gynhelir gan Sefydliad Microbioleg y Bundesher. Cynhaliwyd y digwyddiad rhwng 28 a 31 Hydref a’r prif bwnc oedd cadw poblogaethau'n ddiogel rhag bygythiadau biocemegol.

Rhoddwyd y prif gyflwyniadau gan yr Athrawon Les Baillie ac Andrea Brancale, ill dau o’r Ysgol Fferylliaeth. Siaradon nhw am yr heriau presennol o frechlynnau bio amddiffyn a datblygiad gwrthfeirysol a gwrthfiotig, yn eu tro.

Roedd Dr Marcella Bassetto yno hefyd. Cyflwynodd ar ei gwaith yn cyfosod cnewyllosidau gwrthfeirysol newydd fel triniaethau posibl ar gyfer heintiau arbovirws.

Siaradwr arall yn y gynhadledd oedd Dr Joachim, cyn aelod o staff Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sydd bellach yn gydweithiwr. Ar hyn o bryd mae Dr Bugert yn Gadlywydd Llawfeddyg gyda Llynges yr Almaen yn y Sefydliad Microbioleg. Mae'n ymwneud â nifer o brosiectau ar y cyd gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Ysgol. Mae'r ddwy ochr yn awyddus i greu cysylltiadau agosach rhwng y ddau sefydliad. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae lluoedd arfog yr Almaen wedi buddsoddi'n helaeth yn eu galluoedd profi gwrthfeirysol. Mae'r Ysgol Fferylliaeth eisoes yn cydweithio â'r timau, yn profi cyfansoddion ar gyfer eu gweithgarwch yn erbyn asiantau hysbys. Gyda lwc, dim ond dechrau partneriaeth ffrwythlon yw hon.

Dywedodd yr Athro Baillie, 'Ein nod yw datblygu mwy o asiantau gwrthfeirysol gan gyfuno sgiliau unigryw ein hysgol gydag adnoddau enfawr Llynges yr Almaen, a’r nod yn y pen draw fydd cadw ein poblogaethau'n ddiogel.”

Rhannu’r stori hon