Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect newydd yn edrych ar Gatholigiaeth fodern gynnar rhwng Rhufain a'i bröydd gogleddol

13 Tachwedd 2018

Cesare Baronio
Cesare Baronio receiving a vision to write ecclesiastical history

Hanesydd o Gaerdydd i wneud llythyrau pedwar ffigur allweddol o'r unfed ganrif ar bymtheg yn Rhufain yn hygyrch  

Bydd y darlithydd Hanes Modern Cynnar Dr Jan Machielsen yn catalogio gohebiaeth gan ffigurau allweddol dros gyfnod o dri mis diolch i grant ymchwil gan yr Academi Brydeinig a Leverhulme.

Dr Machielsen yw awdur Martin Delrio: Demonology and Scholarship in the Counter-Reformation, a bydd yn ymgymryd â'r gwaith wrth baratoi ar gyfer cyfrol newydd yn edrych ar y berthynas rhwng ysgolheigion Rhufeinig a'r rheini yn rhanbarthau ffiniol Catholigiaeth rhwng 1550-1620.

Y pedwar unigolyn Eidalaidd yw'r dyneiddiwr a'r hanesydd Fulvio Orsini (1529-1600), llyfrgellydd y Fatican Guigliemo Sirleto (1514-1585), y cardinal a'r hanesydd eglwysig Cesare Baronio (1538-1607) a'r diwinydd yr Archesgob Roberto Bellarmine (1542-1621), yn cynrychioli dwy genhedlaeth o ysgolheictod Catholig.

Bydd eu gohebiaeth yn cynnig dealltwriaeth werthfawr newydd o'r ffordd yr ymatebodd yr Eglwys Gatholig i'r her Brotestannaidd a sut y newidiodd yn sgil hynny.

Yn draddodiadol mae haneswyr wedi trin yr ymateb Catholig i'r Diwygiad Protestannaidd fel ymateb sefydliadol, gan babau, esgobion ac ymholwyr, yn ôl yr hanesydd. Ond mae hyn yn anwybyddu'r ffaith fod llawer o'r ymateb deallusol i Brotestaniaeth yn deillio ymhell o Rufain, mewn ardaloedd ffiniol fel De'r Iseldiroedd ac ymhlith alltudion Catholig Seisnig. Nid ymatebion sefydliadol oedd y rhain, ond rhai’n seiliedig ar fenter awduron unigol.

Mae Dr Machielsen yn egluro arwyddocâd ehangach ei ymchwil: "A allwch chi fod yn Gatholig a gwrthwynebu'r pab? A yw hi'n bosibl bod yn fwy sanctaidd na'r pab? Mae'r rhain yn gwestiynau addas i Gatholigiaeth heddiw, gyda'r Pab Francis yn cael ei gollfarnu a'i danseilio gan geidwadwyr Catholig oddi mewn a'r tu hwnt i hierarchaeth yr Eglwys. Ond maen nhw'n gwestiynau gwell fyth o bosibl i'w holi am Gatholigion yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pan oedd Protestaniaid yn eu collfarnu fel pabyddion oherwydd eu hufudd-dod dall i Esgob Rhufain."

"Roedd awduron oedd yn gweithio yn ardaloedd y ffin yn llawn parchedig ofn at Rufain, ei gogoniant a'i llyfrgelloedd. Milwyr troed yn ei hamddiffyn oedden nhw. Ond roedden nhw hefyd yn bryderus. Beth pe bai Rhufain yn gwneud rhywbeth nad oedden nhw'n ei gymeradwyo? Diwygio traddodiadau, ildio tir i'r hereticiaid, neu gael gwared â seintiau lleol sy'n bwysig i'w hardal leol? Mae gohebiaeth y pedwar ysgolhaig Rhufeinig hyn yn cynnig golwg wirioneddol i ni ar sut roedd yr emosiynau croes hyn yn gweithio mewn bywyd go iawn, gan ddweud cymaint wrthym am sut y newidiodd Catholigiaeth yn y broses."

Yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain, bydd Dr Machielsen yn catalogio'r llythyrau a ddelir yn archifau Llyfrgell y Fatican, Prifysgol Gregoriana a'r Biblioteca Vallicelliana, gan eu gwneud yn hygyrch  drwy Early Modern Letters Online yn ystod haf 2019.

Ag yntau'n Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, mae gan Dr Jan Machielsen ddiddordeb arbennig ym meysydd hanes diwylliannol, crefyddol a deallusol modern cynnar. Mae ei addysgu israddedig yn cynnwys y modiwl trydedd flwyddyn Witchcraft and Witch-Hunting in Early Modern Europe a'r modiwl ail flwyddyn Spain and the Conquest of the Americas.

Bydd ei gyfrol arfaethedig  Making a Church Ever the Same: Catholicism between Rome and the Borderlands, c1550-1620 yn codi cwestiynau athronyddol ehangach am y ffyrdd mae unigolion, yn y gorffennol a'r presennol, yn cysoni eu credoau gyda ffydd mewn endidau llawer mwy na nhw eu hunain.

Rhannu’r stori hon