Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Amlieithrwydd Creadigol yn cyflwyno blas ar ddysgu iaith

1 Tachwedd 2018

A pupil at Creative Multilingualism Day smiles at the camera

Gwelwyd opsiynau gyrfa cyffrous ac amrywiaeth o fuddiannau personol yr Hydref hwn pan ddaeth disgyblion ysgol o bob rhan o Gymru i ddigwyddiad i gefnogi Diwrnod Amlieithrwydd Creadigol Caerdydd-Rhydychen.

Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd a Rhydychen, Coleg yr Iesu, Rhydychen, Llwybrau at Iaith Cymru, Rhwydwaith Seren a'r prosiect Amlieithrwydd Creadigol, ac fe'i cynhaliwyd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ar 13 Hydref. Ei nod oedd tynnu sylw at fanteision dysgu iaith ac ysbrydoli pobl ifanc i ystyried ieithoedd modern ar gyfer Safon Uwch ac yn y brifysgol.

Dengys ffigurau StatsCymru fod nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n sefyll TGAU mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg wedi gostwng o 7,867 yn 2014 i 5,626 yn 2017, tra bod y niferoedd Safon Uwch yn yr un pynciau wedi gostwng o 541 yn 2014 i 390 yn 2017.

Ym marn arbenigwyr iaith mae’r broblem yn cael ei gwaethygu hefyd gan agweddau negyddol at ddiwylliannau eraill, a ddwysawyd gan Brexit.

I helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon bwriad trefnwyr y dydd oedd cynnig cipolwg i ddisgyblion blwyddyn 11 o'r hyn y gallai dysgu iaith ei olygu iddyn nhw. Daeth 50 o ddisgyblion blwyddyn 11 i'r digwyddiad o 18 o ysgolion ar draws Cymru, a chawsant gyfle i fynychu sesiynau blasu mewn Ffrangeg, Sbaeneg, Japaneg, Cyfieithu Creadigol a'r Gymraeg.

I ddangos pa mor ddefnyddiol y gall ieithoedd fod, rhannodd dau gyn fyfyriwr iaith, Emily Donnan a Callum Davies, eu profiadau o ddysgu iaith gyda'r disgyblion a siarad hefyd am ble mae ieithoedd wedi mynd â nhw yn eu gyrfaoedd.

Astudiodd Emily y Gyfraith a Ffrangeg ac mae'n gweithio bellach fel Intern Hawliau Dynol ac Eiriolaeth yn Geneva i Plan International, corff datblygu a dyngarol, tra bo Callum, a astudiodd Ffrangeg a'r Gymraeg, yn gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd fel Swyddog Cyswllt Chwaraewyr.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Callum,“I Brifysgol Caerdydd a’r sgiliau iaith a ddysgais fel rhan o’m cwrs gradd y mae’r diolch am bopeth rwy’n ei wneud nawr."

Dywedodd Cydlynydd Prosiect Llwybrau at Ieithoedd Cymru, Meleri Jenkins, "Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr gyda gwir gyffro yn yr Ysgol Ieithoedd Modern drwy gydol y dydd.  Rhoddodd y panel gyrfaoedd bywiog gyda'n gwesteion ysbrydoledig ddigon i'n ieithwyr ifanc feddwl amdano gyda llawer yn dweud bod y dydd naill ai wedi cadarnhau neu eu perswadio i astudio iaith ar gyfer Safon Uwch. Canlyniad gwerthfawr arall i'r dydd oedd dangos sut y gallai astudio iaith ategu astudiaeth pwnc arall yn y brifysgol, a'r gwahanol lwybrau sydd ar gael i fyfyrwyr ar ôl graddio. Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd ac a sicrhaodd fod y diwrnod hwn yn llwyddiant."

Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd yw un o'r sefydliadau cydlynu cenedlaethol ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor ar gyfer Llwybrau at Ieithoedd Cymru.

Rhannu’r stori hon