Ewch i’r prif gynnwys

Cytundeb ariannu a allai ddod â bygythiad 'Gwasgfa Barnett' i ben

9 Rhagfyr 2016

UK Currency

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn trafod y posibilrwydd o greu ‘sylfaen ariannu’ i Gymru yn y dyfodol i geisio diogelu lefel gwariant y pen gan y llywodraeth yng Nghymru.

Mae adroddiad newydd gan ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol yn asesu tri dewis ar gyfer y sylfaen. Mae hefyd yn trin a thrafod y berthynas rhwng y sylfaen a’r grant bloc a roddir i Gymru ar ôl datganoli trethi i Gymru o fis Ebrill 2018.

Adroddiad 'Barnett Squeezed?: Options for a Funding Floor after Tax Devolution’ yw’r ail adroddiad gan yr ymchwilwyr hyn am y trafodaethau ynghylch Fframwaith Cyllid 2016-17 ar gyfer Cymru.

Hyd yn oed ar ôl datganoli trethi, bydd y rhan fwyaf o gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn parhau i ddibynnu ar grantiau bloc o’r Trysorlys, a Fformiwla Barnett sy’n pennu’r newidiadau blynyddol i’r grantiau hyn o hyd.

O ganlyniad i’r fformiwla, mae lefel yr arian a roddir yn ôl y pen yn gallu symud tuag at yr un lefel â Lloegr, beth bynnag fo’r angen cymharol. 'Gwasgfa Barnett' yw'r term ar gyfer y ffenomenon hon.

Dros y degawd diwethaf, mae nifer o bobl wedi galw am ddull a fyddai’n atal y lefelau ariannu yng Nghymru rhag gostwng yn is nag amcangyfrif o’r hyn y bydd ei angen ar y wlad yn y dyfodol.

Dyma ganfyddiadau'r adroddiad newydd:

  • Mae’r cyfnod estynedig o doriadau ledled y DU a Chymru a’r ffaith fod y boblogaeth yng Nghymru’n cynyddu’n fwy araf, yn golygu bod yr arian a roddir y pen yng Nghymru wedi symud ymhellach o lefel Lloegr ers dechrau’r degawd presennol.
  • Erbyn 2015-16, am bob £100 sy'n cael ei wario y pen yn Lloegr ar raglenni sydd wedi'u datganoli i Gymru, fe gafodd Llywodraeth Cymru tua £120 y pen. Mae hyn yn uwch nag amcangyfrif Comisiwn Holtham o’r angen cymharol o tua £115 y pen (gweler y datganiad i'r wasg sydd wedi'i atodi).
  • Fodd bynnag, bydd lefel ariannu gymharol Cymru yn agosáu yn awtomatig at lefel Lloegr unwaith eto pan fydd gwariant Llywodraeth y DU yn dechrau cynyddu eto’n gyflymach.

Mae’r dull dadansoddi a dogfen Excel sy’n dangos sut mae’r ariannu cymharol wedi’i bennu ar gael.

Mae'r adroddiad yn asesu tri dewis o ran cyflwyno sylfaen ariannu i liniaru'r 'wasgfa' hon:

  • Sylfaen Barnett Syml Byddai Fformiwla Barnett yn parhau i bennu'r newidiadau yng ngrant bloc Cymru, ond pe byddai'r arian ar gyfer Cymru yn gostwng yn is y pen na 115% o'r lefel yn Lloegr, byddai arian ychwanegol yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru i wneud iawn am y gwahaniaeth.
  • Ffactor Anghenion Sefydlog Barnett: Byddai'r arian ychwanegol sy'n dod i Gymru drwy Fformiwla Barnett yn cael ei luosi gan ffactor anghenion sefydlog (megis 115%). Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd y byddai dull o'r fath yn arwain at wariant yn symud yn nes at lefel angen y cytunwyd arni (byddai hyn yn dibynnu ar dwf cymharol yn y boblogaeth a thwf mewn gwariant).
  • Ffactor Anghenion Amrywiol Barnett: Byddai'r dull hwn yn cyflwyno ffactor anghenion (a gaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu twf cymharol mewn poblogaeth a gwariant) a fyddai'n achosi i'r arian a ddaw i Gymru symud yn agosach bob amser at lefel angen y cytunwyd arni.

Mae dogfen Excel ryngweithiol yn eich galluogi i astudio effaith dewisiadau sylfaen Fformwla Barnett ar ariannu cymharol mewn amryw sefyllfaoedd.

Ar ôl datganoli trethi a gweithredu'r sylfaen ariannu, bydd angen ystyried yn ofalus pa lywodraeth fydd yn wynebu'r risgiau o ran gwariant ac incwm os bydd y boblogaeth yn tyfu ar gyfraddau gwahanol yng Nghymru a Lloegr. O ran gwariant, mae sefyllfa gymharol Cymru yn gwella os bydd poblogaeth Cymru yn tyfu'n gymharol araf.

Byddai twf arafach yn y boblogaeth hefyd yn golygu twf arafach mewn refeniw treth yng Nghymru. Fodd bynnag, byddai dull addasu'r grant bloc i Gymru ar ôl datganoli treth yn gwarchod Llywodraeth Cymru rhag y risg hwn sy'n gysylltiedig â maint y boblogaeth. I fod yn gymesur ac yn atebol, mae'r adroddiad yn argymell y dylid gwneud hyn ochr yn ochr â chyflwyno Sylfaen Barnett neu Ffactor Anghenion Amrywiol Barnett.

Meddai Ed Poole, Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Mae cyfnod estynedig o doriadau llym a'r twf cymharol araf ym mhoblogaeth Cymru yn golygu bod yr arian a gaiff Cymru y pen yn uwch na'r sylfaen sy'n seiliedig ar anghenion a amlygwyd gan Gomisiwn Holtham. Fodd bynnag, nid yw'r perygl i Gymru wedi diflannu'n llwyr eto: bydd y lefelau ariannu cymharol yn gostwng pan fydd gwariant cyhoeddus yn dechrau cynyddu'n gyflymach unwaith eto.

"Mae'r ffaith bod y modd y caiff Cymru ei hariannu yn newid mor aml yn dangos gwendid sylfaenol Fformiwla Barnett - mae lefelau gwariant y pen ledled gwledydd y DU yn fympwyol ac o ganlyniad i ddamwain hanesyddol."

“Mae'r trafodaethau a gynhelir ar hyn o bryd yn gyfle i gydnabod y lefel uwch o anghenion yng Nghymru ac osgoi bygythiad 'Gwasgfa Barnett' rhag digwydd yn y dyfodol.”

Meddai David Phillips, Uwch-Economegydd Ymchwil yn Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol:

"Mae'n bwysig bod unrhyw sylfaen ariannu yn cyd-fynd yn daclus â datganoli trethi. Os bydd y sylfaen yn seiliedig ar angen cymharol, mae'n bwysig bod grym ariannu Llywodraeth Cymru yn agosáu at y lefel anghenion hon o ganlyniad i hynny - oni bai, wrth gwrs, mai incwm o drethi a ddatganolir sydd i'w gyfrif am fod yn uwch neu'n is na'r lefelau anghenion o dan sylw.

Gyda hyn mewn golwg, mae'n edrych fel pe byddai cyfuno 'dull didynnu mynegrifol per capita' i addasu'r grant bloc ar ôl datganoli trethi â sylfaen Barnett syml neu amrywiol, yn gallu gweithio.

Fel arall, gallai Llywodraeth y DU fanteisio ar y cyfle i gael gwared ar fformiwla mympwyol Barnett yn llwyr a chyflwyno system ariannu synhwyrol sy'n cydnabod y sefyllfa mewn gwirionedd o ran datganoli a rhannu yn yr Undeb"

Llwytho’r adroddiad i lawr

Rhannu’r stori hon