Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth Fulbright i un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd

29 Mehefin 2017

Jac Larner profile picture. Jac is in his 20's and wears glasses.
Mae Jac Larner, un o fyfyrwyr doethuriaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru, wedi ennill Ysgoloriaeth Fulbright ar gyfer Pob Maes.

Mae myfyriwr gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr o fri gan un o raglenni ysgoloriaeth uchaf eu parch a mwyaf dylanwadol y byd, Gwobr Fulbright.

Mae Jac Larner, myfyriwr PhD yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, wedi derbyn Gwobr Fulbright ar gyfer Pob Maes i'w alluogi i astudio a chynnal ymchwil ym Mhrifysgol Michigan, Ann Arbor.

Yn rhan o'i ysgoloriaeth, bydd Jac yn gweithio yn y Center for Political Studies ym Mhrifysgol Michigan, cartref Astudiaeth Etholiadol Genedlaethol America. Diben yr astudiaeth yw hwyluso esboniadau o ganlyniadau etholiadau. Mae'r astudiaeth yn gwneud hynny trwy alluogi ymchwilwyr i weld y byd gwleidyddol trwy lygaid dinasyddion cyffredin. Mae'r astudiaeth ar waith ym Michigan ers 1948.

Bydd Jac Larner a'r 44 myfyriwr arall o Brydain yng ngharfan Fulbright 2017-18 yn dathlu eu llwyddiant ddydd Iau 6ed Gorffennaf 2017 mewn derbyniad mae Swyddfa Materion Tramor a'r Gymanwlad wedi’i drefnu.

Wrth siarad am y gamp, meddai Jac Larner,

"Mae’n dda gyda fi dderbyn Gwobr Fulbright, fydd yn fy ngalluogi i barhau â’m hastudiaethau ym mhrifysgol fyd-enwog Michigan, Ann Arbor, cartref y gwyddorau wleidyddol. Mae'n anrhydedd anhygoel i gael fy newis ar gyfer y rhaglen, fydd yn gyfle unigryw imi weithio gydag arbenigwyr sy'n arwain y byd yn fy maes astudio. Rwy'n gobeithio defnyddio'r sgiliau y byddaf i'n eu dysgu yn ystod y cyfnod hwn i helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o wleidyddiaeth, etholiadau a barn gyhoeddus yma yng Nghymru a’r tu hwnt."

Ychwanegodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Rwy'n falch iawn o lwyddiant Jac ynghylch ennill y wobr glodfawr hon. Bydd yr ysgoloriaeth yn helpu Jac i ddatblygu ei sgiliau academaidd ymhellach mewn amgylchedd academaidd llewyrchus yn yr Unol Daleithiau. Mae'r wobr mae wedi'i derbyn, mewn maes rhyfeddol o gystadleuol, yn dyst i alluoedd Jac ac rwy'n dymuno'r gorau iddo wrth fentro ar draws yr Iwerydd."

Meddai Penny Egan CBE, Cyfarwyddwr Gweithredol Comisiwn Fulbright y DU-UDA,

"Gall effaith rhaglen Fulbright newid y byd. Bydd ein hysgolheigion Fulbright yn dychwelyd i'r DU ar ôl profi gwahanol ddiwylliannau, systemau gwerthoedd a dulliau meddwl. Bydd ganddyn nhw'r gallu i fod yn ddinasyddion byd-eang mwy empathig ac yn fwy parod i gydweithio ar draws ffiniau, rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU a’r tu hwnt."

Ychwanegodd Amy Moore, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwobrau Fulbright,

"Does dim enghraifft well i'w chael o bwysigrwydd parhaus addysg ryngwladol na phenderfyniad a chymhelliant enillwyr ein grantiau yn 2017-18. Mae'r myfyrwyr, yr academyddion a’r gweithwyr proffesiynol hyn wedi nodi perthnasedd cydweithio rhyngddiwylliannol i'w gyrfaoedd. Fel cyn-fyfyrwyr Fulbright ac arweinwyr y dyfodol, byddan nhw'n gallu meithrin cysylltiadau personol a phroffesiynol rhwng cenhedloedd."

Mae Comisiwn Fulbright yn darparu'r unig raglen ysgoloriaeth ddwyochrog drawsiwerydd, gan gynnig Gwobrau ar gyfrer astudio neu ymchwilio mewn unrhyw faes, mewn unrhyw brifysgol achrededig yn yr Unol Daleithiau neu'r DU.

Mae'r Comisiwn yn dewis ysgolheigion trwy broses ymgeisio a chyfweld drylwyr, gan edrych am ragoriaeth academaidd ochr yn ochr â chais penodol, amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a chymunedol, sgiliau llysgenhadol amlwg, awydd i ddatblygu Rhaglen Fulbright a chynllun i roi rhywbeth yn ôl i'r DU ar ôl dychwelyd.

Mae grantiau nodweddiadol yn cynnwys lwfans cynhaliaeth a/neu gyfraniad at ffioedd dysgu. Mae ysgolheigion Fulbright yn derbyn cymorth gweinyddol a rhaglen addysg ddiwylliannol gan gynnwys: prosesu fisa, cyfarwyddyd cynhwysfawr cyn ymadael, cyfleoedd cyfoethogi yn yr Unol Daleithiau, sesiwn ailfynediad a chyswllt â rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr.

Rhannu’r stori hon