Ewch i’r prif gynnwys

Ydy gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu pedair blynedd anodd arall?

21 Medi 2017

Private sector housing

O dan gynlluniau gwariant presennol Canghellor y Trysorlys, gallai gwasanaethau cyhoeddus wynebu pedair blynedd arall o doriadau yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan ddwy felin drafod ym Mhrifysgol Caerdydd.

O ystyried y galw cynyddol a’r pwysau o ran costau, yn enwedig i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, byddai hyn yn arwain at orfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben ynghylch beth i’w flaenoriaethu, a gallai arwain at ystyried pa mor fforddiadwy yw’r ystod presennol o wasanaethau cyhoeddus.

Byddai toriadau o'r fath yn dod ar ôl wyth mlynedd o doriadau y mae Cymru eisoes wedi gorfod eu goddef. Yn ôl yr adroddiad, mae’r gyllideb sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr hyn sy’n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd yn 2017-18 wedi gostwng 8% mewn termau real (£1.3 biliwn yn ôl prisiau cyfredol) ers 2009-10. Mae gwariant cyfalaf 32% yn is.

Mae gwariant ar y GIG, yn ogystal ag ar wasanaethau cyhoeddus ac ysgolion trwy lywodraeth leol, wedi’i ddiogelu i raddau helaeth hyd yma; roedd arian ar gyfer y GIG i’w gyfrif am 39% o Gyllideb Adnoddau Cymru yn 2009-10, ac mae wedi codi i 46% o'r cyfanswm erbyn hyn.

Er bod y toriadau ym myd llywodraeth leol wedi bod yn is yng Nghymru o gymharu â Lloegr, mae cyfanswm yr arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer byd llywodraeth leol wedi gostwng 14% o hyd yn ystod y cyfnod rhwng 2009-10 a 2015-16. Er bod refeniw treth y cyngor wedi cynyddu 17% (heb gynnwys cynllun gostyngiadau trethi cyngor), mae gwariant ar wasanaethau sydd heb eu diogelu fel trafnidiaeth, cynllunio, gwasanaethau amgylcheddol, diwylliant a chymorth cymunedol wedi gostwng bron i chwarter (23%).

Bydd Cyllideb Ddrafft newydd Cymru, a ddisgwylir cyn bo hir, yn cynnwys trethi cenedlaethol sydd newydd eu datganoli am y tro cyntaf (fel Treth y Trafodion Tir a Threth y Gwarediadau Tirlenwi, ac mae cyfraddau treth incwm wedi’u datganoli’n rhannol ar eu ffordd), a bydd yn ystyried Cytundeb y Fframwaith Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.

Meddai Ed Poole, Canolfan Llywodraethiant Cymru, “Mae’r pwerau trethu newydd yn 2018 yn drobwynt yn hanes datganoli. Fodd bynnag, o ystyried yr ymrwymiad i beidio â chodi cyfraddau treth incwm cyn 2021-22, bydd yn cymryd amser iddynt wneud gwahaniaeth ac efallai mai ychydig iawn o effaith a welir ar lefel gwariant cyhoeddus yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf.”

Faint sy’n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd sy’n cael y prif sylw yn yr adroddiad, ac mae’n ystyried beth fyddai’n digwydd mewn ystod o sefyllfaoedd pe byddai gwariant Llywodraeth San Steffan yn aros yr un fath neu’n newid yn y dyfodol. Mewn sefyllfa sy’n seiliedig ar gynlluniau gwariant presennol y Canghellor, byddai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus o ddydd i dydd yn gostwng yn ôl pob tebyg, a byddai gostyngiad o 3% yn y grant bloc ar gyfer adnoddau Cymru erbyn 2021-22, a hynny ar ben y toriadau blaenorol.

Pe byddai Cymru, yn yr achos hwn, yn parhau i ddiogelu’r arian a roddir i’r GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ac ysgolion, byddai’n golygu cyfnod arall o doriadau i fyd llywodraeth leol a’r gwasanaethau cyhoeddus ‘sydd heb eu diogelu'. Mewn un sefyllfa gredadwy, gallai’r gwasanaethau hyn wynebu bron 50% o doriadau erbyn 2021-22 o gymharu â 2009-10.

Meddai Michael Trickey, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, “Byddai parhau i dorri yn codi cwestiynau o bwys ynghylch pa mor gynaliadwy yw rhai gwasanaethau. Fe ddaw adeg pan fydd yn rhaid gofyn faint yn rhagor y gellir cwtogi ar wasanaethau pwysig, ond sydd heb eu diogelu, i allu ymdopi â phwysau sydd ar wasanaethau eraill heb orfod niweidio cymunedol lleol yn economaidd ac yn gymdeithasol.”

Os bydd y Canghellor yn ymateb i bwysau i newid y cynlluniau presennol, e.e. drwy ystyried ymrwymiadau maniffesto'r Ceidwadwyr i gynyddu gwariant ar y GIG, byddai’r grant bloc ar gyfer cyllideb adnoddau Cymru yn wynebu gostyngiad o 0.5% yn y sefyllfa hon, a byddai’n rhaid gwneud dewisiadau anodd o hyd.

Yn wahanol i’r gwariant ar wasanaethau o ddydd i ddydd, byddai’r gyllideb lawer llai ar gyfer gwariant cyfalaf bron 13% yn uwch erbyn 2021-22 o gymharu â’r sefyllfa flaenorol oedd yn seiliedig ar y cynlluniau gwariant presennol.

Llwytho’r adroddiad i lawr

Rhannu’r stori hon