Ewch i’r prif gynnwys

Tuag at senedd fydd o les i Gymru

7 Rhagfyr 2017

Elin Jones AM wears an orange top and speaks at a podium.

Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Mercher 6ed Rhagfyr, yn Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd.

Ar adeg o newid cyfansoddiadol sylweddol yng Nghymru o ganlyniad i Brexit, ac yn dilyn datganoli pwerau newydd, bydd y Llywydd yn trafod ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol y Cynulliad Cenedlaethol.

Cynhelir y ddarlith cyn cyhoeddi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Wrth siarad cyn ei gyhoeddi, meddai’r Llywydd:

"Ymhlith gwledydd Ewrop, mae 267 o aelodau yn siambrau is y seneddau, ar gyfartaledd. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae 142 o aelodau yn y seneddau sy'n gwasanaethu rhwng 1 a 6 miliwn o bobl, ar gyfartaledd. Mae gennym sefydliad bychan iawn ac mae gan bobl Cymru lawer llai o gynrychiolwyr yn ôl y pen yn eu senedd genedlaethol na chyfartaledd Undeb Ewrop.

Os daw’r adroddiad i’r casgliad bod angen mynd i’r afael â hyn, ac os dyna fydd Aelodau’n gofyn imi ei wneud, rwy’n fodlon arwain y drafodaeth. Rwy’n fodlon dechrau sgwrs arloesol, trylwyr ac ystyrlon gyda phobl Cymru. Pan fydd y panel yn cyhoeddi ei adroddiad, rwy’n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol, er mwyn datblygu consensws gwleidyddol a dod o hyd i’r ffordd gywir ymlaen."

Wrth sôn am broses Brexit:

"Dyma’r amser ar gyfer perthynas aeddfed ac uniongyrchol rhwng pwyllgorau seneddol, rhwng deddfwrfeydd, rhwng ysgrifenyddion cabinet a’u Gweinidogion cyfatebol mewn mannau eraill, yn ogystal â rhwng adrannau gwladol.  Dyma'r amser i greu mwy o gydraddoldeb rhwng y cenhedloedd, ac mae angen inni fod yn hyderus yn ogystal â pharchu ein gilydd."

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru:

"Datgan yr amlwg fyddai dweud ein bod mewn cyfnod o gythrwfl cyfansoddiadol. Mewn cyfnod o'r fath, bydd rôl arweiniol Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hanfodol, a dyna pam rydym yn arbennig o falch bod Elin Jones AC wedi derbyn ein gwahoddiad i amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol ein sefydliad datganoledig yn Narlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Wrth wneud hynny, mae hi’n dilyn ôl troed nifer o siaradwyr hynod nodedig mewn cyfres o ddarlithoedd sydd erbyn hyn yn un o uchafbwyntiau calendr gwleidyddol Cymru."

Rhannu’r stori hon