Ewch i’r prif gynnwys

Sylw ar ein hymchwil yn y Cynulliad

15 Mehefin 2018

Welsh Assembly debating chamber

Trafodwyd ein hadroddiad, ‘Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau' yr wythnos hon yn y Cynulliad Cenedlaethol wrth i aelodau holi Llywodraeth Cymru am ddyfodol carchardai’r wlad a phroblemau y mae carcharorion yn eu hwynebu.

Ers iddo gael ei gyhoeddi, mae'r adroddiad gan y Dr Robert Jones wedi bod yn effeithiol ym Mae Caerdydd a San Steffan trwy godi proffil y drafodaeth am gyfiawnder troseddol.

Yr wythnos ddiwethaf, trafododd Pwyllgor Materion Cymru Senedd San Steffan yr adroddiad yn rhan o'i ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai Cymru.

A ddoe (14 Mehefin 2018), trafododd David Rees AC (Aberafan) yr adroddiad gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC.

Canmolodd David Melding AC (Canol De Cymru) y gwaith ymhellach trwy ddweud:

“Hoffwn ganmol gwaith Robert Jones, rhywun rydw i'n ei adnabod – ac rydw i wedi cael y pleser o gynnal digwyddiad yma yn y Cynulliad lle roedd yn brif siaradwr – yn ogystal â gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru. Deunydd o safon uchel iawn yw hwn ac mae angen inni fyfyrio arno."

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Rydyn ni wedi darllen adroddiad Dr Robert Jones. Mae'n rhoi darlun defnyddiol iawn o'r hyn sy'n mynd ymlaen yng ngharchardai Cymru a materion sy'n ymwneud â phobl o Gymru yng ngharchardai Lloegr.”

Ychwanegodd:

"Rydw i wedi gofyn am gyfarfod â'r Gweinidog dros Garchardai, Rory Stewart, ac rydyn ni’n aros i glywed a fydd hynny'n digwydd. Ond, yn fy marn i, yr hyn sy'n sylfaenol yn y mater hwn yw bod angen trin a thrafod polisïau cosb yn gyfannol yng Nghymru."

Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn trafod holl gynnwys yr adroddiad rywbryd eleni. Bydd ysgolheigion Canolfan Llywodraethiant Cymru yn tynnu sylw aelodau Senedd San Steffan a Chomisiynwyr Materion yr Heddlu a Throseddu at materion sydd yn yr adroddiad, hefyd.

Lawrlwytho'r adroddiad

Rhannu’r stori hon