Ewch i’r prif gynnwys

Peryglon a chyfleoedd i drethi datganoledig mewn adroddiad arbenigol newydd

2 Gorffennaf 2018

UK Currency

Fydd dim ffordd syml o gynyddu cyllid trethi incwm trwy ddefnyddio pwerau datganoledig newydd Cymru yn ôl adroddiad gan ysgolheigion Prifysgol Caerdydd ar ran Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru.

Mae ‘Sylfaen Trethi Cymru: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Ariannol’, gan ymchwilwyr Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn dweud y bydd llwyddiant economi Cymru yn effeithio’n uniongyrchol ar faint o arian a ddaw trwy dreth incwm:

Mae mwy a mwy o drafod am bwerau newydd Cymru o ran trethi incwm ac, yn ôl yr adroddiad:

  • byddai cynnydd o 1c yng nghyfradd sylfaenol treth incwm yn codi £184 miliwn, dim ond 2% o gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd
  • byddai angen i lawer o’r enillwyr uchaf ymfudo cyn y byddai toriadau yng nghyfradd uchaf treth incwm yn rhai niwtral eu costau
  • dylid diwygio polisi’r trethi mewn modd cyfun trwy ystyried y trethi datganoledig a lleol i gyd -  er enghraifft, gellid sefydlu trefn decach i dreth y cynghorau ynghyd â newid cyfraddau treth incwm.

Mae’r adroddiad yn nodi risgiau o ran cyllid a ddaw trwy dreth incwm yn y dyfodol, hefyd:

  • Bydd llwyddiant economi Cymru a’r hyn a fydd yn digwydd ym marchnadoedd llafur a thai’r wlad yn effeithio’n uniongyrchol ar ehangder cyllideb Cymru bellach.
  • Mae disgwyl y bydd poblogaeth oedran gweithiol Cymru yn crebachu dros y blynyddoedd nesaf gan gyfyngu ar dwf yn sylfaen trethi’r wlad.

Meddai Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisïau ac Arferion Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru:

"Pan ddaw proses datganoli treth incwm yn rhannol i ben fis Ebrill 2019, bydd Llywodraeth Cymru a’r cynghorau lleol yn rheoli bron £5 biliwn o gyllid treth – 30% o’u gwariant presennol."

"Ynghyd â rhagor o bwerau, fodd bynnag, daw rhagor o gyfrifoldeb ac mae’n hadroddiad yn nodi’r hyn sydd i’w gadw mewn cof er mwyn defnyddio’r pwerau hynny yn ddoeth."

"Dim ond i ryw raddau y bydd modd defnyddio polisi trethi i gyflawni nodau ehangach, a gall hyd yn oed newidiadau mân effeithio’n fawr ar faint o arian a gesglir."

Meddai Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru:

"Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle bellach i bennu ei thrywydd ei hun o ran polisi trethi, a bydd angen i lunwyr polisïau ystyried y ffordd orau o godi arian trwy sylfaen trethi’r wlad i dalu am wasanaethau cyhoeddus datganoledig."

"Gan y gallai unrhyw newid yng nghyfraddau treth incwm achosi sgîl-effeithiau, byddai’n ddoeth diwygio Treth y Cynghorau yr un pryd i greu ffordd gyfannol o drin a thrafod trethu."

"O ystyried dylanwad meysydd ehangach megis addysg a thai ar yr economi, mae rhai problemau traws-adrannol i Lywodraeth Cymru eu datrys er mwyn gofalu y bydd mewn sefyllfa i reoli’r risgiau ychwanegol a ddaw ynghyd â datganoli ariannol."

Lawrlwytho'r adroddiad

Rhannu’r stori hon