Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn cefnogi Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd yng Nghymru

12 Hydref 2018

Michael Sheen

Fe gyhoeddodd Mel Young, Llywydd a Sylfaenydd Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd y cynlluniau yn ystod y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Sbaen nos Iau.

Bydd y gystadleuaeth - sy'n defnyddio pêl-droed i ysbrydoli pobl ddigartref i newid eu bywydau - yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd gan Sefydliad Cwpan y Byd Digartref. Bydd elusen cynhwysiant cymdeithasol Street Football Wales yn ei chefnogi.

Michael Sheen, yr actor o Hollywood, yw Noddwr Street Football Wales a Chadeirydd cynnig Cymru i gynnal Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd.

Bydd cannoedd o chwaraewyr a phersonél o bwys yn aros yn neuaddau preswyl Tal-y-bont, Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl Sheen: “Pan ddechreuais drafod â Street Football Wales, roeddwn yn gofyn: pam gwario arian ar bêl-droed yn hytrach nag ar ddigartrefedd yn uniongyrchol?

“Pan gefais ragor o fanylion, daeth athrylith y syniad i’r amlwg.

“Mae pêl-droed yn eich galluogi i ddarparu pob math o wasanaethau i bobl ddigartref. Wedi i mi ddeall hynny, daeth o syniad o Gwpan Pêl-droed Digartref y Byd yn fwy eglur - roedd yn ffordd o egluro’r holl gysyniad.”

Michael Sheen
Michael Sheen OBE

Roedd Sheen yn canmol Prifysgol Caerdydd am gefnogi’r fenter.

Cafodd Sheen a Keri Harris, Arweinydd Prosiect a Sylfaenydd Street Football Wales, eu tywys gan staff y Brifysgol o amgylch y cyfleusterau a fyddai’n llety ar gyfer y timau.

"Mae’n wych. Mae gallu cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar hyn yn gyffrous dros ben," meddai Sheen.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Mae Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd yn ddigwyddiad cynhwysol a chadarnhaol sy’n galluogi pobl i newid eu bywydau, felly mae’n bleser gan Brifysgol Caerdydd gefnogi Cymru i gynnal y gystadleuaeth.

“Bydd yn fraint i ni groesawu cannoedd o’r chwaraewyr a phersonél o bwys o bob cwr o’r byd i’n neuaddau preswyl.

“Mae Caerdydd wedi bod yn lleoliad arbennig ar gyfer cynifer o ddigwyddiadau chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd hwn yn gyfle gwych arall.”

Meddai Keri Harris: "Byddai cynnal y gystadleuaeth yng Nghymru yn gwireddu breuddwyd - bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n proffil yng Nghymru ac yn codi ymwybyddiaeth mawr ei hangen o’r materion sy'n gysylltiedig â digartrefedd."

Cynhelir Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd ar ffurf gemau pedwar-bob-ochr mewn gwlad wahanol bob blwyddyn.

Mae cystadleuaeth 2018 yn cael ei chynnal ym Mecsico ym mis Tachwedd ac mae Cymru'n anfon dau dîm, dynion a menywod.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni'n ymroddedig yn ein nod i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae'r gymuned oll yn elwa o gael poblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr.