Ewch i’r prif gynnwys

Boddhad myfyrwyr yn "well nag erioed"

12 Awst 2015

Satisfied students

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cofnodi ei lefel uchaf erioed o foddhad cyffredinol ymysg myfyrwyr. 

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS), roedd 90% o fyfyrwyr yn fodlon â'u profiad cyffredinol.

Mae hyn 1% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, ac mae'r canlyniad yn rhoi'r Brifysgol yn uwch na chyfradd Cymru (85%) a'r sector gyfan (86%) ar gyfartaledd ar gyfer boddhad cyffredinol.  

Mae hefyd yn rhoi'r Brifysgol yn drydydd ymysg Grŵp Russell o brifysgolion elitaidd y DU. 

"Ein nod yw gwneud profiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gyfystyr â rhagoriaeth," yn ôl yr Athro Patricia Price, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd.

"Mae'r canlyniadau hyn yn gam pwysig tuag at gyflawni ein nod. Mae'r canlyniadau hyn yn arwyddocaol oherwydd maent yn cynrychioli barn go iawn ein myfyrwyr.

"Mae'n dangos y bartneriaeth gref rydym wedi ei datblygu gyda'n myfyrwyr, yn ogystal ag ymrwymiad, ymroddiad a brwdfrydedd ein holl staff i ddarparu profiad rhagorol yn ystod eu hastudiaethau," ychwanegodd.

Cyhoeddir arolwg NSS yn flynyddol, ac mae'n gofyn i israddedigion roi sgôr i'w profiadau yn y Brifysgol mewn meysydd gan gynnwys addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.

Mae'r canlyniadau'n dangos cynnydd mewn boddhad o ran Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerdydd hefyd, gan atgyfnerthu ei safle fel un o'r goreuon yn y DU.

Ychwanegodd yr Athro Price: "Er gwaethaf y canlyniadau ardderchog hyn, nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau. Mae rhagor o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod boddhad myfyrwyr a mesurau eraill yn cael eu codi ac yn parhau i fod yn gyson o uchel ledled y Brifysgol."

Mae strategaeth Y Ffordd Ymlaen yn rhoi targed i'r Brifysgol o gyrraedd 90% ar gyfer boddhad cyffredinol ym mhob Ysgol, ac 80% ar gyfer boddhad yn y categori asesiad ac adborth erbyn 2017.