Ewch i’r prif gynnwys

Rethinking Existentialism

26 Medi 2018

Cyfrol newydd gan Athro Athroniaeth

Mae'r athronydd o Gaerdydd Jonathan Webber yn dadlau dros ddehongliad newydd o rai o gyfrolau enwocaf ac eang eu cyrhaeddiad yr ugeinfed ganrif.

Ers bathu'r term yn 1945, mae 'dirfodaeth' wedi'i ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth dryslyd o ddamcaniaethau, nofelau, dramâu, cerddi, ffilmiau, paentiadau, cerfluniau a cherddoriaeth.

Gan symud o'r defnydd eang hwn o'r term, dadl yr Athro Webber yw bod angen i ni ddychwelyd at y testunau a roddodd ystyr i'r gair yn wreiddiol a'u darllen o'r newydd, heb geisio gwneud iddynt gyd-fynd â'r categori ehangach hwn nad yw wedi'i ddiffinio'n dda.

Gan gynnig dadansoddiad gwreiddiol o weithiau llenyddol ac athronyddol clasurol gan Jean-Paul Sartre, Simone de Beauvoir, a Frantz Fanon, mae Rethinking Existentialism yn datblygu dehongliad newydd o ddirfodaeth mewn cyferbyniad beirniadol â gweithiau canolog gan Albert Camus, Sigmund Freud, a Maurice Merleau-Ponty.

Dywedodd yr Athro Webber: "Os gwnawn ni ddychwelyd at y testunau gwreiddiol, fe welwn mai difrodaeth yw'r ddamcaniaeth foesegol mai rhyddid dynol yw sail pob gwerth arall. Rydym ni hefyd yn canfod bod cyfraniad Simone de Beauvoir wedi'i ddiystyru i raddau helaeth. Hi sy'n cynnig y ddamcaniaeth fwyaf credadwy am beth yw rhyddid dynol a'r ddadl hanfodol ei fod yn sail i bob gwerth arall."

Dadl Webber yw bod Beauvoir a Sartre yn anghytuno ar y dechrau ynghylch strwythur rhyddid dynol yn 1943, gyda Sartre'n derbyn barn Beauvoir o fewn degawd. Mae'n dadlau hefyd mai Beauvoir sy'n cynnig y ddadl fwyaf sylweddol dros rinwedd dilysrwydd.

Mae ystyriaethau gwleidyddol ein hoes ni o ran rhywedd a hil yn ganolog i'r gyfrol, sy'n gorffen drwy egluro goblygiadau'r dehongliad newydd hwn o ddirfodaeth i athroniaeth, seicoleg a seicotherapi cyfoes.

Mae Jonathan Webber yn Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Llywydd Cymdeithas Sartre y DU.

Caiff Rethinking Existentialism ei lansio yng nghanol Caerdydd ar 3 Hydref, ac fe'i cyhoeddir gan Oxford University Press.

Rhannu’r stori hon