Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymdeithas Eingl-Bortiwgeaidd yn cyhoeddi mai un o raddedigion Caerdydd sydd wedi ennill y wobr flynyddol i fyfyrwyr

19 Medi 2018

Y garfan gyntaf o fyfyrwyr i astudio Portiwgalaidd yn yr Ysgol gyda Chyfarwyddwr y rhaglen, Dr Rhian Atkin (canol), a Louise Ormerod (trydedd o'r chwith)
Y garfan gyntaf o fyfyrwyr i astudio Portiwgalaidd yn yr Ysgol gyda Chyfarwyddwr y rhaglen, Dr Rhian Atkin (canol), a Louise Ormerod (trydedd o'r chwith)

Myfyriwr a raddiodd mewn Ieithoedd Modern, ond a oedd heb fawr ddim Portiwgaleg pan ymunodd â’r Ysgol, yw enillydd gwobr nodedig i’r myfyriwr gorau.

Dyfarnwyd gwobr Ann Waterfall i Louise Ormerod, a raddiodd eleni fel rhan o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr i astudio Portiwgaleg yn yr Ysgol, gan y Gymdeithas Eingl-Bortiwgeaidd (APS), sy’n cyflwyno’r wobr bob blwyddyn i’r myfyriwr gorau mewn Portiwgaleg.  Rhoddir y wobr er cof am Ann Waterfall, a fu’n gwasanaethu fel Ysgrifennydd y Gymdeithas am 20 mlynedd.

Mae myfyrwyr o brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig yn cael eu henwebu ar gyfer y wobr gan eu hathrawon neu eu darlithwyr, ac mae’r enwebiadau’n cael eu hadolygu ar y cyd gan Lysgenhadaeth Portiwgal ac ymddiriedolwyr APS.

Cyflwynir ei gwobr i Louise, a gafodd radd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf ar ôl astudio Portiwgaleg a Sbaeneg, mewn seremoni ym mis Hydref ym Mhreswylfa Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad Portiwgal, Manuel Lobo Antunes.    Bydd Louise yn derbyn £1,000 a blwyddyn o aelodaeth APS.

Louise Ormerod
Louise Ormerod

Wrth sôn am ei champ, meddai Louise, “Rydw i wrth fy modd mai fi gafodd fy newis i ennill Gwobr y Gymdeithas Eingl-Bortiwgalaidd eleni. Mae hyn yn wir yn goron ar y cwbl ar ôl graddio yn y dosbarth cyntaf gyda gradd BA (Anrh) mewn Portiwgaleg a Sbaeneg ym mis Gorffennaf.  Bedair blynedd yn ôl roeddwn i’n astudio’r iaith fel dechreuwr, felly mae’n anrhydedd fawr derbyn gwobr nodedig fel hon am fy nghyflawniadau wrth astudio Portiwgaleg.”

“Hoffwn ddiolch i Dr Rhian Atkin a Ms Licínia Pereira am eu holl gefnogaeth academaidd; fuasai hyn ddim yn bosibl hebddyn nhw. Rwy’n gobeithio parhau i ddatblygu fy nghyflawniadau academaidd mewn Portiwgaleg wrth i mi symud ymlaen i’r MA mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddarach y mis yma.”

Dywedodd Dr Rhian Atkin, cyfarwyddwr y rhaglen Portiwgaleg, “Rydym ni’n eithriadol falch o’r hyn mae ein holl fyfyrwyr wedi’i gyflawni yn eu hastudiaethau a’r tu hwnt, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda phob un ohonynt yn ystod y pedair blynedd diwethaf wrth i ni sefydlu’r rhaglen Bortiwgaleg gyda’n gilydd.  Llongyfarchiadau gwresog i bawb ohonynt wrth raddio, a Parabéns ychwanegol i Louise am ennill y wobr nodedig hon.  Pob dymuniad da i’n holl raddedigion at y dyfodol; edrychwn ymlaen at glywed am eu hanturiaethau.”

Mae Portiwgaleg ar gael yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ar lefel dechreuwr ac uwch, a gellir ei hastudio mewn rhaglen anrhydedd ar y cyd â Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg neu Sbaeneg.

Rhannu’r stori hon