Datgelu hanes gwartheg
18 Medi 2018
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dadansoddi dros 50,000 o farcwyr genetig ac wedi egluro sut y mae gwartheg wedi cael eu dofi drwy hanes.
Mae gwaith ymchwil newydd gan Ysgol y Biowyddorau wedi ymchwilio sut y mae dau prif grŵp o wartheg wedi cael eu dofi, ac wedi profi sawl theori ar y mater.
Dywedodd Dr Pablo Orozco Ter Wengel, Prifysgol Caerdydd: “Mae gwartheg wedi’u rhannu’n ddau brif grŵp, y gwartheg zebuine, sydd â chrwb (hump) ar eu cefn ac a gafodd eu dofi yn yr Indus Valley, a hefyd mae’r gwartheg taurine, nad oes ganddynt grwb ar eu cefn ac a gafodd eu dofi yn y Fertile Crescent.
“Food bynnag, mae rhan arall i’r stori o ddofi gwartheg. Mae amrywiad genetig clir yn digwydd yn y gwartheg taurine, sy’n byw yn Affrica, gan awgrymu ei bod yn bosibl bod trydydd math o ddigwyddiad dofi wedi digwydd yn nghanol gogledd Affrica.
“Roeddem ni eisiau ymchwilio’r hypothesis amgen hwn ar ddofi gwartheg, er mwyn cael syniad clir o ble mae ein gwartheg wedi dod.”
Edrychodd yr ymchwilwyr ar 50,000 o enynnau ar draws mathau o grwpiau gwartheg, a defnyddio modelu cyfrifiadurol i brofi gwahanol senarios a allai egluro hanes dofi gwartheg, gan ganolbwyntio ar b’un a ddigwyddodd y dofi mewn dau neu dri digwyddiad.
“Mae ein gwaith dadansoddi wedi cadarnhau bod ein gwartheg dof wedi dod o ddau ffynhonnell, ac yn gwrthbrofi’r hypothesis amgen.
“Roedd hefyd yn datgelu bod yr amrywiad genetig unigryw yn y gwartheg Affricanaidd yn debygol o fod oherwydd croesiad (hybridization) gydag hynafiad gwartheg gwyllt o’r enw’r Aurochs Affricanaidd, nad ydynt yn bodoli bellach.
“Mae’r astudiaeth hon wedi bwrw goleuni ar hanes ein gwartheg, ac wedi gwrthbrofi’r hypothesis amgen o sut y cafodd y ddau grŵp o wartheg domestig eu ffurfio,” meddai’r Athro Mike Bruford o Brifysgol Caerdydd.