Ewch i’r prif gynnwys

Pwyslais ar iaith

12 Medi 2018

Cynhadledd ryngwladol flaenllaw yn dychwelyd i'w man geni

Bydd yr wythfed gynhadledd Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Arferion Proffesiynol (ALAPP8) yn cael ei chroesawu yn ôl i Gaerdydd eleni (17 – 19 Medi), ac yn canolbwyntio ar y trafodaethau presennol ynglŷn â'r berthynas rhwng ieithyddiaeth gymhwysol, astudiaethau disgwrs proffesiynol, ac arferion proffesiynol.

Ers y gynhadledd gyntaf yn y Brifysgol yn 2011, mae arbenigwyr rhyngwladol wedi rhannu'r syniadau ac arferion diweddaraf mewn dinasoedd ledled y byd, gan gynnwys Copenhagen, Genefa, Gent a Milan yn Ewrop, a Kuala Lumpur.

Mae'r gwahanol ddisgyblaethau'n cynnwys ymchwil iaith a chyfathrebu ac arbenigeddau proffesiynol mewn meysydd sy'n cynnwys busnes, y gyfraith, gofal iechyd, addysg, y cyfryngau, gofal cymdeithasol a lles, a mewnfudo a rheoli ffiniau.

Bydd y prif siaradwyr yn ALAPP8 yn cynnwys yr Athro Iaith ac Ieithyddiaeth Gymhwysol Saesneg Theresa Lillis (y Brifysgol Agored); yr Athro Addysg a Seicoleg Addysgol Roger Säljö (Prifysgol Gothenburg) a'r Athro Rheoli Andrea Whittle (Prifysgol Newcastle).

Bydd y darlithoedd yn cynnwys u ddarlith Candlin Ideologies of writing in professional domains: Challenges for making useful knowledge (yr Athro Lillis), Categorizing practices and social dilemmas: The case of pupil identities and school careers (yr Athro Säljö) a Consequential categories: How categories in interaction work to get work done (yr Athro Whittle).

Y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu fyd-enwog sy'n cynnal y gynhadledd, a'i nod yw cyflwyno mwy o ddarllenwyr i ymchwil arloesol mewn cydweithrediad â Journal of Applied Linguistics and Professional Practice (JALPP).

Cynhelir y gynhadledd Ieithyddiaeth Gynhwysol ac Arferion Proffesiynol yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd dros gyfnod o dri diwrnod. Dilynwch #ALAPP8 i gael y newyddion diweddaraf.

Rhannu’r stori hon