Creu gweithlu meddygol i wasanaethu cymunedau ledled Cymru
7 Medi 2018
Wrth i’r Gymru wledig wynebu diffyg enbyd yn nifer y meddygon teulu i ymateb i’r galw cynyddol gan gleifion yn sgîl poblogaeth sy’n heneiddio ac ar gynnydd, mae tair prifysgol yng Nghymru yn cynnal cynllun peilot sy’n ceisio dod â meddygon ifanc yn ôl i Ogledd a Chanolbarth Cymru.
Bydd rhaglen CARER (Llwybr Addysg Cymunedol a Gwledig), sydd yng ngofal Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr meddygol o Gaerdydd gael blwyddyn o’u haddysg mewn practisau Meddygon Teulu yng ngogledd a chanolbarth Cymru, fel eu bod yn cael profiad amhrisiadwy o gydweithio’n agos â chlinigwyr a chleifion mewn lleoliadau cymunedol.
Meddai’r Athro Siladitya Bhattacharya, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae nifer o feddygfeydd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn wynebu gorfod cau oherwydd bod llai o feddygon teulu i gymryd lle’r rhai sy’n ymddeol neu’n ymadael.
Bydd y cynllun newydd, sy’n dechrau ym mis Medi 2018, yn adeiladu ar arfer presennol Prifysgol Caerdydd o sicrhau bod ei myfyrwyr meddygol yn cael cynnig lleoliadau ar draws y sir mewn amrywiaeth eang o leoliadau, ac mae’n cyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu addysg feddygol ar draws Cymru drwy gydweithio rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, gyda’r nod o alluogi myfyrwyr i astudio eu gradd feddygol gyfan yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol agos.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rwy’n falch iawn o weld y cynllun hwn yn darparu cyfle i’n cenhedlaeth nesaf o feddygon astudio yn y Gymru wledig, cyn cyflwyno graddau meddygol llawn amser yng Ngogledd Cymru. Bydd yr enghreifftiau rhagorol hyn o gydweithio rhwng ein prifysgolion yn gymorth mawr i ddod â meddygon teulu i ardaloedd lle bu’n draddodiadol anodd recriwtio yng Ngogledd a Gorllewin Cymru."
Bydd cynllun CARER yn cychwyn ym mis Medi 2018, gyda saith o fyfyrwyr yn cael eu lleoli yn Aberystwyth a phump ym Mangor. Byddant yn cwblhau’r cyfan o’u trydedd flwyddyn yn y lleoliadau hyn cyn dychwelyd i Gaerdydd i orffen eu graddau.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd i groesawu'r grŵp cyntaf o fyfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd i astudio yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chynnig ein cyfleusterau astudio, cefnogaeth a hamdden rhagorol iddynt. O brofiad, rydym yn gwybod bod myfyrwyr meddygaeth yn dueddol o eisiau parhau i weithio'n agos at le maen nhw'n astudio. Drwy gynnig y cyfle hwn i astudio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydym yn gobeithio y byddant hefyd yn gweld dyfodol proffesiynol yma, a thrwy wneud hyn gobeithiwn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg gweithwyr gofal iechyd sy'n gweithio yn yr ardal."
CARER fydd y rhaglen gyntaf o'i bath yng Nghymru, ac ar y cychwyn bydd ar gael i fyfyrwyr meddygol presennol y drydedd flwyddyn yn unig. Mae cynlluniau tebyg eisoes wedi'u treialu mewn gwledydd eraill ac wedi bod yn llwyddiannus.
Ymhlith rhai o'r elfennau cadarnhaol yr adroddwyd amdanynt o raglenni tebyg ar draws y byd mae’r ffaith bod y myfyrwyr yn caffael gwell dealltwriaeth o anghenion cleifion, sgiliau cyfathrebu mwy datblygedig a pherthynas waith gryfach gyda chleifion, cyd-fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dywedodd Ella Wooding, un o'r myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n cymryd rhan yng nghynllun CARER: "Rwyf wedi mwynhau’n fawr yr addysgu meddyg teulu a gefais yn fy nwy flynedd gyntaf yn yr ysgol feddygol, felly roeddwn i’n meddwl bod CARER yn swnio fel cyfle gwych! Roeddwn i hefyd yn meddwl y byddai’n gyfle da i weld mwy o Gymru a phrofi rhywbeth gwahanol i fywyd yng Nghaerdydd.”