Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i hyfforddiant meddygol

10 Gorffennaf 2018

MEDIC students in simulation suite

Bydd myfyrwyr meddygol Caerdydd yn cael cyfle i astudio yng ngogledd Cymru yn rhan o bartneriaeth newydd gyda Phrifysgol Bangor i ehangu addysg feddygol.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu addysg feddygol ledled Cymru, gan gynnwys cyfleoedd newydd i astudio yng ngogledd Cymru.

Erbyn 2019, drwy bartneriaeth rhwng Prifysgolion Bangor a Chaerdydd, disgwylir i drefniadau fod ar waith er mwyn caniatáu myfyrwyr i astudio eu gradd feddygol gyflawn yng ngogledd Cymru.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi y bydd myfyrwyr nawr yn gallu dechrau ar eu taith i fod yn feddygon drwy astudio meddygaeth yng ngogledd Cymru.

"Mae hyn o ganlyniad i brifysgolion Cymru yn cydweithio i fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn wrth gynnal ein gweithlu meddygol yng Nghymru.

"Yr wyf bob amser wedi bod yn glir, yn hytrach na chreu ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru, y ffordd orau i ehangu addysg feddygol yno byddai drwy gydweithio.

"Golyga hyn y bydd gennym fyfyrwyr sy'n astudio meddygaeth yng ngogledd Cymru yn gynt nag y byddem byth yn ei weld drwy sefydlu ysgol feddygol newydd."

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Dr Stephen, Deon Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog i gefnogi ein hymdrechion i ddarparu addysg feddygol arloesol a gwasgaredig yng Nghymru."

"Mae'n rhoi cyfle gwych i adeiladu ar gysylltiadau sefydledig gyda Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â Byrddau Iechyd Prifysgol gysylltiedig ledled Cymru.

"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu inni fwrw ymlaen ar ehangu mynediad i feddyginiaeth. Bydd hefyd yn cynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn meddygol, ac yn mynd i'r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth leol."

Cyhoeddodd y Gweinidog y bydd addysg feddygol yng Nghymru yn ehangu ar unwaith, gyda 40 o leoedd meddygol wedi'u hariannu ar gael o fis Medi ymlaen, 20 yng Nghaerdydd ac 20 yn ysgolion meddygol Abertawe.

Bydd Prifysgol Abertawe yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i gynyddu cyfleoedd yng ngorllewin Cymru.

Mae disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â chymaint o'u hastudiaethau ag sy'n bosibl mewn lleoliadau cymunedol er mwyn sicrhau y darperir gofal mor agos â phosibl at gartrefi cleifion.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G.Hughes: "Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Caerdydd a'r byrddau iechyd i addysgu llawer mwy o feddygon yng ngogledd Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

"Bydd y datblygiad hwn, sy'n dechrau yn 2019, yn ein galluogi i ehangu'r addysg feddygol gyfredol a ddarperir ym Mhrifysgol Bangor, a chyflwyno mwy o fyfyrwyr meddygol i ogledd Cymru. Heb unrhyw amheuaeth, bydd hyn o fudd i gleifion a chyhoedd y rhanbarth.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan i wireddu hyn. Mae llawer o waith caled nawr o'n blaenau, a gwn y bydd pawb yn ymdrechu er mwyn gwneud hyn yn llwyddiant mawr."

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.