Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg i Bawb

30 Gorffennaf 2015

First minister, Carwyn Jones, launches Welsh for All scheme to help students learn Welsh
First minister, Carwyn Jones, launched Welsh for All scheme to help students learn Welsh

Cynllun dysgu iaith newydd y Brifysgol yn cynnig Cymraeg i Bawb

Bydd cynllun newydd sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â'u hastudiaethau, a hynny'n rhad ac am ddim, yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

O fis Hydref 2015 ymlaen, bydd cynllun newydd y Brifysgol, Cymraeg i Bawb, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ar draws disgyblaethau academaidd ddysgu Cymraeg.

Byddant yn cael eu haddysgu mewn grwpiau a bydd ganddynt fynediad at ystod o adnoddau ar-lein i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith. Bydd adnodd ymwybyddiaeth iaith ar gael i fyfyrwyr hefyd i ddatblygu eu dealltwriaeth o statws yr iaith heddiw.

Bydd Cymraeg i Bawb yn canolbwyntio ar addysgu ar lefel dechreuwyr i gychwyn, cyn i'r fenter gael ei datblygu ar gyfer pob lefel gallu.

Bydd Cymraeg i Bawb yn ategu darpariaeth bresennol y Brifysgol ar gyfer dysgu Cymraeg, sy'n cynnwys Cymraeg i Oedolion, y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu (a ariennir gan Lywodraeth Cymru), a Thystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r fenter newydd yn ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol, a bydd yn rhaglen bwrpasol ar gyfer myfyrwyr yn unig.

Mae gan Ysgol y Gymraeg brofiad helaeth o ddarparu cyfleoedd arloesol i ddysgu Cymraeg a dysgu am ddiwylliant Cymru. Un enghraifft yw’r ddarpariaeth i fyfyrwyr o Brifysgol Colgate, Efrog Newydd, sy’n dod i Gaerdydd yn flynyddol, ac yn astudio modiwlau yn Ysgol y Gymraeg yn ogystal â'u pynciau gradd eu hunain.

Bydd cynllun Cymraeg i Bawb yn cael ei lansio'n ffurfiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol (3 Awst) gan Brif Weinidog Cymru.

Dywedodd: "Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar gyrsiau dysgu Cymraeg a mwynhau ein diwylliant.  Yn wir, bydd llawer yn mynd yn eu blaenau i fod yn llysgenhadon dros Gymru ymhell ar ôl gadael y Brifysgol. 

“Rwy'n siŵr y bydd myfyrwyr sy'n dod i Gaerdydd yn mwynhau'r cyfle i ddysgu'r iaith a chymdeithasu gyda myfyrwyr eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.  Hoffwn longyfarch Prifysgol Caerdydd ar y cynllun 'Cymraeg i Bawb' arloesol."

Meddai'r Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fel Ysgol, rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y myfyrwyr ar draws y Brifysgol sy'n cael y cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae'r cynllun hwn yn enghraifft arall o sut ydym yn arwain y ffordd drwy ddarparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu iaith ochr yn ochr â'u cyrsiau gradd.

“Rydym yn hyderus y bydd y sgiliau iaith y byddant yn eu datblygu drwy’r cynllun Cymraeg i Bawb o fudd enfawr iddynt; yn arbennig i'r rheini sy'n bwriadu byw a gweithio yng Nghymru. Mae ffigyrau cyrchfan graddedigion 2013/14 yn dangos bod 42% o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu cyflogi yng Nghymru, ac yn wir mae’r galw am y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar lefel broffesiynol yn tyfu’n aruthrol.”