Ewch i’r prif gynnwys

Ailgreu rhin garlleg mewn labordy am y tro cyntaf erioed

24 Awst 2018

garlic antibiotic resistance

Mae ymchwilwyr wedi ailgreu cyfansoddyn gwrthfiotig sy'n gyffredin mewn garlleg am y tro cyntaf erioed.

Mae tîm o Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys cwmni o dde Cymru Neem Biotech, wedi llwyddo i syntheseiddio'r cyfansoddyn, a elwir yn ajoene, a hynny heb orfod defnyddio garlleg i ddechrau'r broses. Mae hyn yn agor y posibilrwydd o gynhyrchu llawer ohono yn rhad iawn.

Mae'r tîm o'r farn y gellid defnyddio'r cyfansoddyn fel cyffur newydd yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau.

Mae'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi yn y cyfnodolyn cemeg blaenllaw, Angewandte Chemie.

Mae ajoene yn cyfansoddyn organosylffwr sydd yn aml mewn garlleg ac sy'n ymddangos fel hylif clir. Mae tystiolaeth ei fod yn gyfrwng gwrthfiotig, gwrthficrobaidd a gwrthffyngol effeithiol, ac mae wedi bod yn addawol mewn triniaethau cemotherapi ar gyfer canser.

Mae ymchwil wedi dangos bod effeithiolrwydd ajoene yn deillio o'i allu i ymyrryd â signalau cyfathrebu cemegol rhwng bacteria, a'u hatal rhag tyfu a lledaenu.

Hyd yma, mae ajoene wedi cael ei gynhyrchu drwy ddefnyddio rhin garlleg fel deunydd dechrau, sy'n golygu nad oes modd cynhyrchu digon na dibynnu arno.

Am y tro cyntaf mae ymchwilwyr o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd wedi datblygu dull cadarn a dibynadwy ar gyfer creu ajoene gan ddefnyddio cemegau sydd ar gael yn fasnachol fel deunyddiau dechrau.

Drwy ddefnyddio'r dull newydd mae modd cynhyrchu mwy, ac mae'r ffaith bod y cyfansoddyn yn fwy effeithiol, dibynadwy a chost effeithiol yn golygu y gellir ei wneud ar raddfa fwy i greu llawer ohono. At hynny, gallai'r dull newydd alluogi'r ymchwilwyr i greu sylweddau sy'n deillio o ajoene a gwneud rhagor o waith i archwilio i botensial fel cyfansoddyn therapiwtig.

Mae'r tîm hefyd yn credu y gallai'r datblygiad newydd hwn fod yn ddefnyddiol iawn yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau.

Mae ymwrthedd i wrthfiotigau'n defnyddio pan mae bacteria'n datblygu'r gallu i drechu'r cyffuriau a grëwyd i'w lladd, ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd y cyhoedd. Wrth i facteria datblygu ymwrthedd i gyffuriau gwrthfiotig traddodiadol, mae gwyddonwyr yn chwilio am gyfansoddion newydd i fynd i'r afael â hyn.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Thomas Wirth, o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: "Gan ddefnyddio deunyddiau dechrau sydd ar gael yn hawdd, rydym wedi llwyddo i greu ffordd effeithlon, gadarn a dibynadwy o gynhyrchu llawer o ajoene.

"Mae nodweddion gwrthfiotigol anhygoel y cyfansoddyn hwn yn addawol iawn ac rydym yn gobeithio y bydd y cam pwysig hwn ymlaen yn cyflymu ymdrechion i gynhyrchu symiau mawr o ajoene, er mwyn gallu gweld pa mor effeithiol ydyw fel cyffur therapiwtig."

"Gan ddefnyddio deunyddiau dechrau sydd ar gael yn hawdd, rydym wedi llwyddo i greu ffordd effeithlon, gadarn a dibynadwy o gynhyrchu llawer o ajoene."

Yr Athro Thomas Wirth Professor of Organic Chemistry

“The remarkable antibacterial properties of this compound have shown great promise and we hope that this new breakthrough will accelerate efforts to produce ajoene in large volumes and better test its effectiveness as a therapeutic drug.”

Rhannu’r stori hon