Ewch i’r prif gynnwys

Presenoldeb amlwg yn yr Eisteddfod

28 July 2015

Eisteddfod Maes

Materion pwysig yn derbyn sylw yn yr Eisteddfod

Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn taflu goleuni yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ar rai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu Cymru.

Bydd sawl trafodaeth yn canolbwyntio ar bynciau sy’n hollbwysig i ddyfodol y wlad.

Yn eu plith mae goblygiadau canlyniad yr Etholiad Cyffredinol i Gymru, sut i gael y gorau o’n gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol y cyfryngau Cymraeg wrth baratoi at adnewyddu Siarter y BBC a threfniadau cyllido newydd i S4C.

Bydd diwylliant a threftadaeth yn amlwg fel arfer, gyda sgyrsiau ar ymchwil arloesol i’r Mabinogion a’r modd mae tafodieithoedd Cymraeg yn esblygu dros amser.

Bydd golwg ffres ar yr Ŵyl a’r gymuned o’i chwmpas i’w weld yn www.llaisymaes.com, papur newydd digidol yr Eisteddfod. Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol amdano ynghyd â Chanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol, fydd yn cynnal gweithdai i alluogi creu a rhannu mwy o newyddiaduraeth Gymraeg uwch ei safon.

Uchafbwynt arall fydd lansio Welsh for All ar 3 Awst, fydd yn annog myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â’u hastudiaethau arferol.

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ym Maldwyn a’r Gororau, ym Meifod, rhwng 1 a 8 Awst.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan: “Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o uchafbwyntiau’r calendr diwylliannol ac rydym ni’n falch iawn i fod â phresenoldeb mor sylweddol yno eleni.

“Rydym ni’n ymfalchïo ein bod yn Brifysgol Gymreig sy’n gwneud cyfraniad enfawr i fywyd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y wlad.

“Hoffwn eich croesawu’n gynnes i ymuno â’n sgyrsiau, trafodaethau a gweithgareddau amrywiol a fydd, gobeithio, yn dangos sut mae ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar Gymru.”

Mae Cymru’n dod i arfer â chanlyniad Etholiad Cyffredinol eleni, a chaiff yr effeithiau eu dadansoddi gan yr Athro Richard Wyn Jones a’r Athro Roger Scully – o Ganolfan Llywodraethiant Cymru – ym Mhafiliwn Cymdeithasau 1 ar 5 Awst.

Bydd yr Athro Jones hefyd yn paratoi’r tir ar 6 Awst ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn etholiad difyr iawn i’r Cynulliad yn 2016.

Bydd Dr Sioned Pearce, o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru’r Brifysgol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, hefyd yn siarad am wleidyddiaeth wrth iddi ystyried diddordeb pobl ifanc 16 a 17 oed mewn gwleidyddiaeth ac a ydyn nhw’n cael eu cynrychioli’n ddemocrataidd. Cynhelir y sesiwn hon ym mhafiliwn y Brifysgol ar 7 Awst.

Mae dyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn destun trafod brwd ar hyn o bryd, a dyma fydd ffocws trafodaeth, hefyd ar 7 Awst, yn edrych ar y ffordd orau i gynorthwyo arloesi oddi mewn iddyn nhw.

Uchafbwynt amserol arall fydd trafodaeth panel ar ddyfodol y cyfryngau Cymraeg fydd yn cynnwys y Brifysgol, BBC Cymru Wales ac S4C ym Mhafiliwn y Brifysgol ar 3 Awst.

Bydd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost yn gosod swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg dan y chwyddwydr ac yn ystyried gwelliannau adeiladol, mewn dwy sgwrs ar wahân ym Mhafiliwn y Brifysgol ar 4 Awst a darlith flynyddol Cwmni Iaith ar 6 Awst.

Bydd diwylliant y genedl yn cael ei gynrychioli’n eang yng ngweithgareddau’r Brifysgol drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.

Bydd yr Athro Sioned Davies, sydd wedi derbyn canmoliaeth am ei chyfieithiad o’r Mabinogion i’r Saesneg, yn cynnal dwy sgwrs am y gwaith clodfawr, ar 4 a 5 Awst, cyn traddodi Darlith Goffa Hedley Gibbard ar 6 Awst ar gyfieithiadau Cymraeg o Alice’s Adventures in Wonderland.

Mae gan yr Athro Davies gysylltiadau cryf ag ardal yr Eisteddfod eleni; fe’i magwyd yn Llanbrynmair, Clatter a’r Trallwng.

Sgwrs arall sy’n siŵr o ddenu diddordeb yn lleol yw trafodaeth Dr Iwan Wyn Rees ar 5 Awst am dafodiaith yr ardal a sut mae tafodieithoedd Cymru’n ehangach wedi esblygu dros amser.

Mae wrthi’n casglu data mewn gwahanol rannau o Faldwyn a fydd yn ei helpu i bennu i ba raddau mae’r defnydd o wahanol nodweddion y dafodiaith wedi newid dros y degawdau diwethaf.

Mae Dr Rees yn llunio holiadur i gael gwybod mwy am y ffordd mae tafodieithoedd yn esblygu, a bydd pafiliwn y Brifysgol yn cynnwys bwth recordio gyda gwahoddiad i ymwelwyr recordio eu tafodiaith eu hunain.

Ar 6 Awst bydd yr Athro Bill Jones a’r Athro E Wyn James yn traddodi darlith flynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, 'Meifod a 'Merica: Cofio Cylchoedd Ann Griffiths a Sarah Maldwyn', yn edrych ar y cysylltiadau ag America yn ardal yr Eisteddfod.

Ganwyd y bardd adnabyddus, Ann Griffiths, o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod a bydd yr Athro E Wyn James yn trafod ei hemynau a’i llythyrau yn ei sgwrs ar 4 Awst.

Bydd Dr Siwan Rosser a’i gwesteion yn dadansoddi swyddogaeth diwylliant gwerin Cymru, hefyd ar 4 Awst, a bydd Dr Rhiannon Marks yn siarad am fywyd y bardd o Batagonia Irma Ariannin (Irma Hughes de Jones) ar 6 Awst.

Mewn mannau eraill, bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn dangos sut mae technoleg yn helpu sêr Cwpan Rygbi’r Byd eleni i ddal y bêl, beth bynnag yw’r tywydd.

Mae’r Brifysgol a Gilbert, gwneuthurwr peli Cwpan Rygbi’r Byd, wedi dod at ei gilydd i ddangos sut mae polymer yn arwyneb allanol y bêl yn gwneud iddi gasáu dŵr (hydroffobig) a glynu at ddwylo’r chwaraewyr.

Mae'n rhan o arddangosfa a gweithgareddau Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a Chymdeithas Feddygol Prifysgol Caerdydd yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Yn olaf, mae gan Dr Laurence Totelin, yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, arddangosfa ym mhafiliwn y Brifysgol sy’n edrych ar hanes a chymdeithaseg bwydo babanod. Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn y pafiliwn hefyd gyda neiniau a theidiau, i weld sut mae arferion bwydo babanod yng Nghymru wedi newid dros amser.

Bydd pafiliwn y Brifysgol ar agor i ymwelwyr drwy gydol yr Eisteddfod gyda nifer o weithgareddau i’r teulu, ffilmiau, lluniaeth a chyswllt diwifr am ddim.

Bydd gwybodaeth ar gael am y modd mae’r Brifysgol yn cefnogi’r Gymraeg, gan gynnwys amrywiol fodiwlau cyfrwng Cymraeg ar ystod eang o gyrsiau gradd.

Ni yw cartref cangen Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n gwneud argymhellion am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i’r Bwrdd Academaidd ac sy’n ystyried ein cynlluniau am ddatblygiadau pellach yn y maes hwn.

Share this story