Ewch i’r prif gynnwys

Y dystiolaeth orau eto o wreiddiau 6,000 mlwydd oed Caerdydd

27 July 2015

Aerial view of Ely area

Mae digwyddiad cloddio cymunedol mawr yn un o fryngaerau mwyaf arwyddocaol Cymru o Oes yr Haearn wedi datgelu'r "dystiolaeth orau eto" bod gwreiddiau prifddinas Cymru yn dyddio yn ôl 6,000 o flynyddoedd i'r Oes Neolithig gynnar (4,000 - 3,300 CC)

Mae digwyddiad cloddio pedair wythnos ym Mryngaer Caerau, ar gyrion gorllewinol Caerdydd, wedi datgelu clostir Neolithig enfawr gyda sarn ynghlwm wrtho – dyma heneb y dywed archaeolegwyr ei fod yn "eithriadol o brin". Dim ond pump arall y gwn eu bod yn bodoli yng Nghymru.

Yn ogystal, wrth ymgymryd â'r gwaith o gloddio'r safle – sydd dros 3 hectar mewn maint – daethpwyd o hyd i'r casgliad mwyaf o grochenwaith Neolithig cynnar i'w ddarganfod yng Nghymru erioed, ynghyd ag esgyrn anifeiliaid, bwyelli cerrig ac offer fflint.

Daw'r darganfyddiadau yn sgîl trydydd tymor y gwaith archaeolegol ym Mryngaer Caerau, sy'n cynnig tystiolaeth hynod o wreiddiau Caerdydd yn Oes y Cerrig.

Roedd digwyddiad cloddio eleni yn cynnwys dros 200 o wirfoddolwyr lleol a oedd yn gweithio ochr yn ochr ag archaeolegwyr, er mwyn bod ar flaen y gad o ran datgelu'r darganfyddiadau diweddaraf. Fe wnaeth y digwyddiad cloddio pedair wythnos ddenu 2000 o ymwelwyr o Gaerau a Threlái a'r cymunedau cyfagos.

Mae Prosiect Treftadaeth CAER yn brosiect cydweithredol rhwng Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol, y sefydliad cymunedol Action Caerau and Ely (ACE) ac ysgolion lleol.

Dywedodd Dr Oliver Davis, Cyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: "Roedd gwaith cloddio yn 2014 wedi awgrymu y bu gweithgarwch Neolithig ar y bryn, o bosibl, ond mae maint anhygoel y safle a chyflwr y darganfyddiadau eleni wedi rhagori ar ein disgwyliadau a'n rhyfeddu ni i gyd.

"Mae'n annhebygol mai treflan ydoedd; yn hytrach, mae'n bosibl mai man cyfarfod ydoedd lle byddai rhai o ffermwyr cyntaf Cymru wedi ymgasglu ar adegau penodol o'r flwyddyn i sefydlu cysylltiadau cymunedol drwy weithgareddau gan gynnwys gwledda, cyfnewid a pherfformio defodau".

Ychwanegodd Dr Dave Wyatt, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: "Unwaith eto, mae'r cymunedau o amgylch y bryn wedi bod wrth wraidd y gwaith o ddatgelu stori anhygoel y safle hwn, a fu unwaith yn ganolbwynt pŵer rhanbarth Caerdydd. Eleni, tyfodd y tîm wrth i gannoedd o wirfoddolwyr lleol o bob oedran ddod i roi help llaw, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr. Mae talent a chynhesrwydd pobl Caerau a Threlái wedi dod i'r amlwg drwy gydol y gwaith cloddio.

"Mae darganfyddiadau'n dal i gael eu gwneud, mae'r bobl yn dal i ddod, ac mae cymuned Treftadaeth CAER yn dal i dyfu a chryfhau."

Un rhan o Brosiect Treftadaeth CAER yw'r gwaith cloddio hwn. Ei fwriad yw rhoi i'r gymuned well dealltwriaeth o'u treftadaeth a gorffennol hynod ddiddorol yr ardal, a rhoi cyfle iddynt ennill sgiliau newydd, meithrin hyder a chydweithio yn y gymuned ar yr un pryd.

Share this story