Cydnabod llwyddiannau ffisegwyr ifanc
10 Awst 2018
Cynhaliodd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ddigwyddiad Ffisegydd Ysgol y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Ogden ddydd Mercher 18 Gorffennaf i ddathlu ffisegwyr rhanbarthol ifanc. Mae Ffisegydd Ysgol y Flwyddyn yn cydnabod ymdrechion a llwyddiannau rhagorol myfyrwyr ysgol uwchradd ym maes ffiseg.
Cafodd saith myfyriwr ffiseg o ysgolion lleol wobrau yn y seremoni. Cawsant eu henwebu gan eu hysgolion am eu brwdfrydedd ym maes ffiseg a seryddiaeth a'u dealltwriaeth o'r pwnc a'u diddordeb ynddo.
Y saith myfyriwr a gafodd wobrau oedd Isabel Wilde a Mason Evans o Ysgol Croesyceiliog, Connie Chapman a Larisa Bones o Ysgol Howells, Izzy Khan o Ysgol Uwchradd Gatholig St Bernadette, Ashlin Blackburn o Ysgol Stanwell a Finlay Browne o Ysgol Ramadeg Bryste.
Cynhaliwyd y digwyddiad gyda'r nos ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn cynnwys derbyniad i ddathlu a chyflwyniadau ysbrydoledig gan ffisegwyr Caerdydd ar gyfer enillwyr y gwobrau a'u gwesteion. Cafodd y myfyrwyr buddugol dystysgrifau a thalebau llyfr, ynghyd â gwahoddiad i ymuno â Chymdeithas Cynfyfyrwyr Ogden.
Dywedodd Dr Chris North, Darlithydd Gwyddoniaeth Ogden yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: "Mae'n bleser gweld ffisegwyr ifanc fel rhain yn cael cydnabyddiaeth am eu llwyddiant rhagorol ym maes ffiseg a'u brwdfrydedd dros y pwnc. Nod gwobrau Ymddiriedolaeth Ogden yw eu hannog a'u cefnogi i ddod yn ffisegwyr y dyfodol."
Mae'r gwobrau'n agored i fyfyrwyr ym Mlwyddyn 7 a 10, ond mae rhai rhanbarthau hefyd yn cynnig gwobrau i fyfyrwyr ym mlynyddoedd ysgol eraill.