Ewch i’r prif gynnwys

Tiwtor yn ennill tlws Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn

9 Awst 2018

Matt Spry

Mae tiwtor yn y Brifysgol sy'n addysgu'r Gymraeg i ffoaduriaid wedi ennill tlws clodfawr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae Matt Spry yn gweithio yn Ysgol y Gymraeg ac mae’n trefnu cyrsiau ac yn addysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghaerdydd.

Nod y gwersi yw cyflwyno bywyd a diwylliant Cymraeg i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Mae Matt yn dod o Plymouth yn wreiddiol, a dim ond ers 2015 y mae wedi bod yn dysgu Cymraeg.

Dywed fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd yn llwyr.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch ragor am beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.