Ewch i’r prif gynnwys

Hwb o £4.5m gan yr UE i CUBRIC

24 Gorffennaf 2015

Jane Hutt with builders at CUBRIC
Finance and Government Business Minister Jane Hutt visits the CUBRIC site

Mae'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt, wedi cyhoeddi £4.5m o arian gan yr UE i helpu Prifysgol Caerdydd i ddatblygu canolfan ragoriaeth flaenllaw ar gyfer ymchwil i'r ymennydd

Bydd adeilad newydd CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd) yn galluogi ymchwilwyr i brofi syniadau a damcaniaethau newydd yn gyflym er mwyn cael dealltwriaeth gyflymach o achosion amrywiaeth o gyflyrau iechyd, gan gynnwys dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol.

Bydd arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith adeiladu ar gyfleuster newydd gwerth £44m ar y Campws Arloesedd yn Heol Maendy.

Fe wnaeth Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, gyhoeddi'r arian yn ystod ymweliad â'r safle fel rhan o'i Thaith Cyllideb 2015 o amgylch Cymru.

Dywedodd y Gweinidog: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi arian gan yr UE i helpu i adeiladu canolfan ragoriaeth yng Nghymru gyda'r gallu i ymgymryd ag ymchwil arbenigol ar y cyd, o'r radd flaenaf, ym maes niwrowyddoniaeth.

"Dyma enghraifft wych arall o sut mae arian yr UE yn cefnogi twf yn economi Cymru, gan helpu ein sefydliadau academaidd i ddenu rhagor o fuddsoddiadau ymchwil preifat a chystadleuol, a sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang o ran ymchwil ac arloesedd sy'n torri tir newydd."

Disgwylir i'r gwaith o ehangu CUBRIC arwain at hyd at £22m o fuddsoddiadau ymchwil ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf, gan alluogi'r Brifysgol i gydweithio ag arbenigwyr blaenllaw i drechu clefydau sy'n effeithio ar yr ymennydd.

Bydd y ganolfan bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau presennol y Brifysgol, a bydd yn gartref i nifer o labordai ac offer arloesol. Disgwylir i'r gwaith ehangu greu swyddi ymchwil medrus newydd ar y safle hefyd.

Meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r arian hwn gan yr UE, sy'n sicrhau safle CUBRIC fel arweinydd Ewropeaidd o ran delweddu'r ymennydd ac ysgogi'r ymennydd, ac mae'n sail i'n cartref modern £44m newydd yng Nghaerdydd.

"Bydd cysylltu technoleg arloesol CUBRIC gyda grŵp hynod fedrus o ymchwilwyr yn ein helpu i ddeall gwahaniaethau yn swyddogaeth arferol yr ymennydd ac achosion cyflyrau fel dementia, sgitsoffrenia, a sglerosis ymledol. Yn y pen draw, bydd y wybodaeth hon yn arwain at ddatblygu triniaethau gwell. "

Yn ôl yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:  "Mae hwn yn gyfleuster blaenllaw a fydd yn denu ymchwil newydd i Gymru, gan adeiladu ar ein cryfderau presennol.  Mae'n newyddion da ar gyfer ymchwil yng Nghymru."

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £9m yn natblygiad CUBRIC hefyd, gan gynnwys arian tuag at sganiwr MRI Tesla maes uchel iawn. Bydd y ganolfan yn agor y flwyddyn nesaf.