Ewch i’r prif gynnwys

'Rhuthr Aur' newydd

26 Gorffennaf 2015

Gold Bars

Mae gwyddonwyr yn ymgasglu yng Nghaerdydd (26-29 Gorffennaf) i nodi ‘rhuthr aur’ newydd – pŵer y metel gwerthfawr i lanhau’r byd diwydiannol

Caiff rôl aur mewn catalysis – gwyddor newid cemegol – ei dathlu yn Aur 2015 – cynhadledd fyd-eang a drefnir gan Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI)

Bydd arbenigwyr ac arweinwyr diwydiannol yn dod ynghyd i drafod maes cynyddol cymwysiadau aur fel catalydd mewn amrywiaeth o adweithiau cemegol.

Ymhlith y cynrychiolwyr mae gwyddonwyr catalysis blaenllaw gan gynnwys yr Athro Masatake Haruta, o Brifysgol Fetropolitan Tokyo a’r Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr CCI – un o’r pum canolfan ymchwil catalysis gorau drwy’r byd.

Dywedodd yr Athro Graham Hutchings: “Mae gwerth aur fel ‘hafan ddiogel’ i fuddsoddwyr ym marchnadoedd ansefydlog y byd yn hynod o amserol yn ystod haf 2015, ond gellid dadlau bod gwir werth aur yn gorwedd yn ei botensial i achub bywydau, gwella iechyd a glanhau’r blaned.

 “Mae cynhyrchu deunyddiau cymhleth fel plastig yn creu gormod o wastraff a dim digon o gynnyrch. Gall catalysis aur helpu i leihau’r cemegau niweidiol sy’n cael eu cynhyrchu yn ystod catalysis, ac yn aml bydd aur yn creu amodau adweithio llawer tynerach na chatalyddion eraill.

“Y metel gwerthfawr hefyd yw’r catalydd gorau ar gyfer ffurfio clorid finyl, y prif gynhwysyn ar gyfer cynhyrchu PVC, ac mae ganddo’r potensial i gymryd lle catalydd mercwri sy’n niweidiol i’r amgylchedd ac sy’n llygru dŵr yfed ac yn lladd pobl ar draws y byd.”

Mae catalysis yn cyfrannu dros £50bn y flwyddyn i economi’r DU, gan gyfrannu at gynhyrchu nwyddau o Gymru sydd werth biliynau o bunnoedd mewn allforion. Caiff ei rôl bwysig mewn cemeg ar raddfa fyd-eang ei thrafod yn Aur 2015.

Dywedodd yr Athro Haruta: “Mae gwyddoniaeth a thechnoleg aur yn ehangu ei ffiniau’n gyson – newydd ddechrau mae ei gymwysiadau ymarferol ar ddechrau’r 21ain ganrif. Mae cysyniadau pwysig ym maes catalysis aur yn cael eu ffurfio. Mae ‘bach a phrydferth’, ‘synergedd gyda chymorth’ a ‘cemeg syml’ oll yn disgrifio’r sbardunau sy’n sylfaen i’n hymchwil.”

Dywedodd Trevor Keel, Is-gadeirydd Aur 2015 ac ymgynghorydd i Gyngor Aur y Byd: “Mae aur yn greiddiol i nifer o dechnolegau sefydledig ac sy’n agos at ddod i’r farchnad, ac mae’r gynhadledd hon yn gyfle gwych i’r gymuned ymgasglu a thrafod yr ymchwil a’r datblygu fydd yn arwain at y don nesaf o gymwysiadau aur.”

Sefydliad Catalysis Caerdydd yw’r cyfleuster amlycaf o’i fath yn y DU. Cyhoeddwyd partneriaeth newydd rhwng yr Athro Hutchings a’r Athro Robert Schlögl o Sefydliad Fritz Haber yn Berlin ar raglen newydd o ymchwil catalysis fel rhan o Rwydwaith Ynni Maxnet yn gynharach eleni. Hefyd agorwyd labordy CCI newydd werth £500,000 gydag ystod o gyfarpar sgrinio a phrofi catalyddion yn 2015 i gynorthwyo’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol.

CCI yw un o bileri System Arloesedd Caerdydd. Bydd y Sefydliad yn symud i’r Cyfleuster Ymchwil Trawsfudol ar gyfer Catalysis a Lled-ddargludyddion. Mae’r cyfleuster arloesol hwn wedi’i glustnodi ar gyfer Campws Arloesedd newydd £300m Prifysgol Caerdydd, fydd yn dod â diwydiant ac ymchwil ynghyd dan un to. Mae’n dangos ymrwymiad y Brifysgol i ymchwil trawsfudol wrth ddatblygu’r economi wybodaeth.