Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd yn cydlynu gweithgareddau gwyddonol ysbrydoledig yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
1 Awst 2018
Cyfle i fwynhau penllanw o weithgareddau ysbrydoledig ac addas i deuluoedd am ‘Wyddoniaeth y Môr’ yn y Pentref Gwyddoniaeth ym Mae Caerdydd rhwng 4 ac 11 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd modd i Eisteddfodwyr weld yr anifail sy’n byw hiraf yn y byd a dysgu sut mae gwyddonwyr yn ceisio defnyddio perthynas yr anifail o Ddoc Penfro i greu meinweoedd newydd i iachau clwyfau. Byddant hefyd yn cael y cyfle i weld sut mae creaduriaid y môr yn goleuo’r byd ac yn rhoi meddyginiaethau i ni sy’n lladd firysau a chelloedd canser.
O dan arweiniad yr Athro Arwyn Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd, mae tîm o 50 o bobl yn cynllunio gweithgareddau hwyl a rhyngweithiol sy’n ymwneud ag ‘Ymgysylltu mewn Gwyddoniaeth’ fydd yn swyno ymwelwyr ac yn tynnu sylw at waith ymchwil morol sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â’r bywyd gwyllt amrywiol ym Mae Caerdydd.
Yn rhan o’r cynllun cyffrous hwn, bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn troi cwch ymchwil RV Guiding Light yn labordy arnofiol i roi’r cyfle i bobl ddysgu am yr amgylchedd morol a sut mae’n cael ei astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn noddi’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y Maes eleni. Gall ymwelwyr â’r pentref gwyddoniaeth ddysgu am fywyd morol a chyfrinachau ein morfeydd heli gan arbenigwyr y Brifysgol yn rhan o Flwyddyn y Môr 2018 Cymru, sy’n rhoi sylw i forlin ragorol y wlad. Yma, gellir gweld rhai o westeion annymunol y môr a chaff ymwelwyr ddysgu sut mae ymchwilwyr yn ceisio eu deall ac atal y niwed y maent yn eu hachosi
Un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod fydd Carnifal y Môr sy’n dechrau am 22.30 ar nos Sadwrn 4 Awst. Bydd y carnifal cymunedol yn dathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ddinas a chysylltiadau Cymreig â diwylliannau ym mhedwar ban byd. Bydd hefyd yn edrych ar sut mae moleciwl o sglefrod môr fflwroleuol wedi newid ein dealltwriaeth o fywyd.
Mae gwneuthurwyr gwisgoedd Carnifal Butetown yn gweithio gyda’r artist Megan Broadmeadow i greu gwisgoedd disglair y carnifal, wedi’u hysbrydoli gan gydweithrediad cymunedol parhaus gyda gwyddonwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol.
Mae ymchwilwyr y Brifysgol wedi dangos i drefnwyr y carnifal ddelweddau o brotein fflwroleuol a ganfyddir mewn sglefrod môr sydd wedi chwyldroi ein byd microsgopig. Yn rhyfeddol, gall y protein gael ei ddefnyddio i oleuo, yn llythrennol, ymchwil i weithgarwch celloedd yn y frwydr yn erbyn clefydau fel canser.
Felly, dewch yn llu i Fae Caerdydd rhwng 4 ac 11 Awst i ymuno yn yr hwyl, cwrdd â’n staff a rhoi cynnig ar ein gweithgareddau gwyddoniaeth ymarferol.