Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarniad y Goruchaf Lys "am fod o fudd i filoedd o gleifion a theuluoedd"

30 July 2018

Supreme Court

Nid oes angen i feddygon a theuluoedd cleifion sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu led-ymwybodol fynd i'r llys i gael caniatâd i ddod â thriniaeth cynnal bywyd i ben mwyach - cyn belled â bod gweithdrefn benderfynu gadarn wedi’i dilyn, a bod clinigwyr a theulu'r claf yn gytûn ynghylch yr hyn sydd o fudd pennaf i'r claf.

Mae academydd Prifysgol Caerdydd sy'n ymchwilio i drin cleifion ag anafiadau trychinebus yn yr ymennydd wedi croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys heddiw (30 Gorffennaf). Dywedodd yr Athro Jenny Kitzinger fod dyfarniad heddiw yn gam cadarnhaol ymlaen mewn gofal sy'n rhoi’r claf yn gyntaf, ac yn helpu i wneud yn siŵr nad yw pobl yn wynebu triniaeth ofer neu ddiangen.

Roedd yr achos o dan sylw yn cynnwys claf dienw, Mr Y, a gafodd niwed difrifol i'r ymennydd yn dilyn ataliad ar y galon yn 2017, gan ei adael mewn cyflwr diymateb.  Cytunodd dau arbenigwr meddygol bod lefel ymatebolrwydd Mr Y yn isel dros ben. Nid oedd ganddo unrhyw ymwybyddiaeth o'i hun na’r hyn sydd o’i gwmpas, a'i bod hi'n annhebygol iawn y byddai'n adennill ymwybyddiaeth. Cytunodd y tîm clinigol a theulu’r claf y byddai er budd pennaf Mr Y petaent yn rhoi’r gorau i roi Maeth a Hydradu Cynorthwyol Clinigol (CANH) iddo.

Tan yn ddiweddar, fodd bynnag, y gred oedd bod rhaid cyflwyno cais i'r Llys Gwarchod cyn y gellid gwneud hyn - hyd yn oed os cytunodd teuluoedd a meddygon ei fod er budd y claf.

Dengys ymchwil gan yr Athro Jenny Kitzinger a Celia Kitzinger, o Ganolfan Ymchwil Coma ac Anhwylderau Ymwybod, y gall hyn achosi oedi hir ac ansicrwydd ynghylch penderfyniadau am driniaeth feddygol. Yn eu barn nhw, mae hyn yn golygu bod cleifion mewn cyflwr diymateb a lled-ymwybodol yn cael eu trin yn wahanol i gleifion eraill. Mae gwrandawiadau llys hefyd yn ddrud iawn (tua £53,000) ac yn aml iawn nid yr teuluoedd yn gallu cael gafael ar gymorth cyfreithiol.

Dywedodd Jenny, athro yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: "Bydd dyfarniad heddiw yn arbed miloedd o gleifion rhag triniaeth ofer neu ddiangen, ac yn arbed poen a gofid hir i'w teuluoedd ar draws y DU. Rydym yn falch bod ein hymchwil wedi helpu i lywio dadl mor bwysig ynghylch gofal diwedd oes."

Dywedodd Celia: "Ar ôl strôc ddifrifol, neu gyflyrau niwrolegol datblygedig, mae'n gyffredin i benderfyniadau gael eu gwneud ynglŷn â pheidio â darparu Maeth a Hydradu Cynorthwyol Clinigol ai peidio.  Gwneir y penderfyniadau hyn gan feddygon ochr yn ochr â’r theuluoedd heb orfod troi at y llysoedd.  Nid oes unrhyw reswm dros drin cleifion sydd mewn cyflwr diymateb neu lled-ymwybodol yn wahanol."

Pwysleisiodd yr ymchwilwyr bod Coleg Brenhinol y Meddygon, y Cyngor Meddygol Cyffredin a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi paratoi Canllawiau Cenedlaethol manwl iawn.

Dywedodd Jenny: "Dylid dilyn y canllawiau hyn a dylai meddygon ymgynghori'n llawn â’r teulu wrth ddod i benderfyniad ynghylch yr hyn sydd orau i'r claf.  Oni bai bod anghytundeb neu ansicrwydd, ni ddylai claf gael ei orfodi i dderbyn misoedd neu flynyddoedd o driniaeth nad yw'r teulu na'r meddygon yn cytuno sydd o fudd i'r claf. Bydd y llysoedd wrth reswm yn parhau i fod ar gael fel adnodd pwysig ar gyfer mynd i'r afael ag achosion lle ceir amheuaeth neu anghydfodau."

Mewn gwrandawiad cynharach, gofynnodd Ymddiriedolaeth y GIG oedd yn rhan o ofal Mr Y am ddatganiad, "nid yw'n orfodol dod gerbron y Llys i gael cyngor am CANH gan glaf sydd â PDOC”(anhwylder hir o ymwybyddiaeth). Rhoddodd yr Uchel Lys ddatganiad ond apeliodd y Cyfreithiwr Swyddogol yn ei erbyn.

Er bod Mr Y wedi marw ers hynny, rhoddodd y Llys ganiatâd i'r apêl fwrw ymlaen, gyda'r dyfarniad yn cael ei gyflwyno yn y Goruchaf Lys heddiw. Gwrthodwyd apêl y Cyfreithiwr Swyddogol, gyda'r llys yn dyfarnu nad oes unrhyw rwymedigaeth mewn cyfraith i feddygon a theuluoedd geisio cymeradwyaeth y llys cyn dod â diwedd i driniaeth cynnal bywyd.

Rhannu’r stori hon