Ewch i’r prif gynnwys

Rhedeg i drawsnewid bywydau

19 Gorffennaf 2018

Rudolf Allemann

Mae un o Uwch-academyddion Prifysgol Caerdydd, yr Athro Rudolf Allemann, yn meddu ar ddealltwriaeth bersonol o fanteision codi arian ar gyfer ymchwil a allai achub bywydau.

Nid yn unig mae'n ymchwilydd uchel ei barch ar draws y byd ei hun, mae ganddo reswm da hefyd dros fod yn ddiolchgar am astudiaethau blaengar.

Cafodd gwraig yr Athro Allemann, Lesley, ddiagnosis o fath ymosodol o ganser a dim ond drwy gyfrwng treial clinigol yr oedd modd cynnig y driniaeth oedd ei hangen arni.

Yn y pen draw, fe wnaeth Lesley wella'n llwyr.

"Bu cymryd rhan mewn treial clinigol o fantais mawr iddi," meddai'r Athro Allemann, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. "15 mlynedd yn ddiweddarach, mae pob dim yn dda."

Yn ddiweddarach eleni, bydd yr Athro Allemann yn rhedeg Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd yn rhan o #TîmCaerdydd i godi arian ar gyfer gwaith ymchwil y Brifysgol ynghylch canser.

Gall ein rhedwyr hefyd godi arian ar gyfer ymchwil / iechyd meddwl/niwrowyddoniaeth.

Er bod lleoedd cyffredinol ar gyfer y ras eisoes wedi eu gwerthu i gyd, mae nifer fechan o leoedd rhad ac am ddim ar gael o hyd drwy gyfrwng #TimCaerdydd ar gyfer y rheini sy'n ymrwymo i godi £200, neu £150 ar gyfer myfyrwyr.

Mae'r Athro Allemann – sy'n rhedwr brwd – yn annog unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan i ymuno ag ef.

"Mae rhedeg yn eich cadw'n heini a gallwch wneud hynny ble bynnag y dymunwch", meddai. "Does dim angen cyfarpar arbenigol arnoch, dim ond pâr da o esgidiau rhedeg.

"Gallwch wneud hynny ar gyfer achos da sydd o fudd nid yn unig i Gaerdydd, ond hefyd i'ch ffrindiau, eich teulu, eich cymdogion – mae hynny'n beth ardderchog."

Unwaith eto, Prifysgol Caerdydd yw un o brif noddwyr yr hanner marathon. Mae’r ras eleni – sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed – yn cael ei chynnal ddydd Sul, 7 Hydref.

Rhedodd tua 350 o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr y Brifysgol, ac aelodau o'r cyhoedd y llynedd yn rhan o #TîmCaerdydd a chodi £65,000, gan chwalu'r targed o £100,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gallwch gefnogi’r Athro Allemann i godi arian yma

Rhannu’r stori hon

Run in the footsteps of champions and fundraise for Cardiff University in the Cardiff University/Cardiff Half Marathon 2018