Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau PhD newydd ar gael yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

12 Gorffennaf 2018

PhD students working together in a library

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi bod dwy ysgoloriaeth PhD ar gael i gefnogi ei rhaglenni.

Bydd yr ysgoloriaethau newydd yn ariannu ffioedd llawn dau fyfyriwr DU/UE am dair blynedd, yn amodol ar gynnydd boddhaol. Byddent hefyd yn cynnwys tâl blynyddol ar gyfradd ôl-raddedig UKRI (£14,777 ar hyn o bryd).

Mae'r ysgoloriaethau newydd ar gyfer naill ai rhaglenni’r Gyfraith neu Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, ond y gobaith yw y bydd yr Ysgol yn gallu dyrannu un ysgoloriaeth i bob disgyblaeth, ond bydd hyn yn dibynnu ar safon y ceisiadau a dderbynnir.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymgymryd â PhD mewn unrhyw faes o'r Gyfraith neu Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yr Ysgol sy'n gallu cynnig goruchwyliaeth. Mae goruchwyliaeth ar bynciau'r Gyfraith ar hyn o bryd yn cynnwys cyfraith hawliau dynol, cyfraith iechyd meddwl, theori gyfreithiol ffeministaidd a chyfraith teulu. Mae pynciau goruchwyliol Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnwys Gwleidyddiaeth Fyd-eang Hanfodol, Rhywedd a Chysylltiadau Rhyngwladol, Technolegau Digidol, Llywodraethu'r Rhyngrwyd a Seibr-ddiogelwch a Datblygu ac Ôl Wladychiaeth.

Gellir gweld rhestr lawn o ardaloedd o oruchwyliaeth ar dudalennau Chwiliwr Cyrsiau'r Brifysgol:

Y Gyfraith

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

"Rydym yn falch iawn o allu cynnig dwy ysgoloriaeth ymchwil gyffrous i'n myfyrwyr PhD eleni. Mae gennym ystod helaeth ac eang o bynciau goruchwyliaeth ar draws ein disgyblaethau yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, sy'n brawf o wybodaeth ac arbenigedd ein staff. Edrychaf ymlaen at groesawu'r ymgeiswyr llwyddiannus i'r Ysgol yn ddiweddarach eleni."

Yr Athro Annette Morris Reader in Law

Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau eu rhaglenni ar 1 Hydref 2018 er efallai y bydd modd dechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd.

Meini Prawf Cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ysgoloriaeth, rhaid i'r ymgeisydd:

  • Fodloni'r gofynion mynediad arferol ar gyfer ymgymryd â PhD yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd; a
  • Meddu ar 'gynnig i astudio' naill ai rhaglen y Gyfraith neu Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (naill ai ar sail cynnig ddiamod neu amodol).

Dyma’r meini prawf gofynnol ar gyfer cael eich derbyn:

  • Dylai ymgeiswyr fod â gradd Anrhydedd o leiaf 2:1 neu gymhwyster tramor cyfwerth mewn pwnc perthnasol; ac
  • Ar gyfer y rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, rhaid iddynt gael sgôr o leiaf 7.0 yn IELTS (gan gynnwys o leiaf 6.5 yn yr elfen ysgrifennu).

Sut i wneud cais: Ymgeiswyr newydd

Rhaid i ymgeiswyr newydd wneud cais drwy system ymgeisio ar-lein y Brifysgol erbyn hanner nos ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2018

Noder bod rhaid llenwi'r ffurflen gais ar-lein yn llawn erbyn y dyddiad cau er mwyn i'ch cais gael ei ystyried.  Cofiwch sicrhau eich bod wedi lanlwytho: cynnig ymchwil llawn; copïau o'r tystysgrifau a thrawsgrifiadau perthnasol a datganiad personol manwl, sy'n rhoi datganiad cryf o'ch diddordeb ymchwil, eich paratoadau a dealltwriaeth o gyd-destun yr ymchwil ac arwyddocâd y prosiect arfaethedig.  Os oes gennych brofiad tu hwnt i addysg yr hoffech chi ei ystyried, awgrymir i chi uwchlwytho CV hefyd.

Sut i wneud cais: Ymgeiswyr presennol/deiliaid y cynnig

Dylai ymgeiswyr presennol a deiliaid y cynnig gysylltu â thîm Ymchwil Ôl-raddedig erbyn hanner nos ddydd Gwener 27 Gorffennaf i fynegi diddordeb.

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu erbyn diwedd mis Awst fan bellaf.

Rhannu’r stori hon