Canolfan Feddygol newydd FIFA i ddarparu’r gofal gorau i bêl-droedwyr
2 Gorffennaf 2018

Mae canolfan sy’n canolbwyntio ar bêl-droed, meddygaeth, gwyddor chwaraeon a biofecaneg, ac sy'n cynnwys ymchwilwyr Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol gan gorff llywodraethu’r byd ar gyfer pêl-droed, FIFA, fel Canolfan Rhagoriaeth Feddygol.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ganlyniad cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, FIFA a Chymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW), ynghyd â chyrff llywodraethu cenedlaethol eraill, sydd gyda'i gilydd wedi bod yn gweithio i wella meddygaeth chwaraeon gymhwysol ar gyfer pêl-droedwyr.
Pwrpas Canolfan Pêl-droed Cymru yw darparu’r gofal meddygol gorau i bawb sy'n chwarae pêl-droed gan gynnwys chwaraewyr proffesiynol a hamdden ar draws pob lefel, beth bynnag yw eu hoed neu eu rhywedd.
Yn ogystal â gwaith dadansoddi anafiadau, asesu ac ailsefydlu, bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar helpu i atal anafiadau a gwella perfformiad chwaraewyr.
Bydd y ganolfan hefyd yn meithrin cydweithrediad ac yn rhoi ymchwil a datblygu newydd ar waith i wella iechyd chwaraewyr.
Dywedodd yr Athro Len Nokes o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi bod yn rhan o'r tîm sy’n ymwneud â’r ganolfan gydweithredol: "Bydd cael ein cydnabod a’n hachredu fel Canolfan Rhagoriaeth Feddygol gan FIFA yn golygu bod modd i ni ddatblygu ein gwaith ar wella llesiant pawb sy'n chwarae pêl-droed, p’un ai fel proffesiwn, neu’n syml i hamddena. Bydd yn ein galluogi i ddarparu dull mwy cyfannol o atal a thrin anafiadau ar gyfer amrywiaeth eang o bêl-droedwyr."
Mae'r tîm amlddisgyblaeth sydd wedi bod yn arwain datblygiad y Ganolfan yn cynnwys yr Athro Nokes, Mr Sean Connelly, Rheolwr Cymorth Meddygol Cymdeithas Pêl-droed Cymru, a'r Athro Gareth Irwin a Dr Huw Wiltshire, o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Irwin: "Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a’n partneriaid yn arwain y ffordd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig o ran meddygaeth pêl-droed ac ymarfer ac ymchwil gwyddor chwaraeon. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ddatblygu gwyddoniaeth feddygol ac ymarfer ystyrlon, sy’n arwain y byd, yng Nghymru, wrth inni symud ymlaen gyda'n partneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd ac y Gymdeithas Bêl-droed."
Dywedodd Mr Connelly: "Rwyf wrth fy modd y bydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn cydweithio’n agos â’r ddwy Brifysgol i helpu i ddatblygu pob agwedd ar y gêm. Gyda'n gilydd mae gennym gyfle gwych i ddangos i’r gymuned bêl-droed fyd-eang beth rydym ni’n ei wneud yma yng Nghymru."
Bydd gan y Ganolfan hefyd rôl addysgol drwy ddarparu cyfleusterau hyfforddi i helpu i addysgu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr chwaraeon sy’n arbenigo mewn pêl-droed.