Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Gwobr Awduron Ifanc Terry Hetherington

2 Gorffennaf 2018

Thomas Tyrrell (chwith) yng Ngwobrau Awduron Ifanc Terry Hetherington 2017
Thomas Tyrrell (chwith) yng Ngwobrau Awduron Ifanc Terry Hetherington 2017

Myfyriwr PhD yn derbyn cymeradwyaeth ar gyfer barddoniaeth cyn graddio

Mae'r myfyriwr Thomas Tyrrell wedi cipio'r ail wobr am ei farddoniaeth yng Ngwobr Awduron Ifanc Terry Hetherington 2018.

Sefydlwyd Gwobr Awduron Ifanc Terry Hetherington yn 2009 i roi cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru fynegi eu hunain drwy gyfrwng ysgrifennu creadigol, ac mae gwobr o £1,000 i'r prif enillydd.

Mae Thomas yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac mae newydd gyflawni ei draethawd doethurol ar farddoniaeth o'r ddeunawfed ganrif. Daeth yn ail hefyd gyda’igeisiadau Sometimes in Summer a Wimbledon Sonnets yn 2017. Mae ei waith eisoes wedi ymddangos yn Picaroon, Lonesome October, Three Drops from a Cauldron a Word for the Wild.

Yn rhan o'i wobr a thrwy garedigrwydd Parthian Books, derbyniodd Thomas fwrsari tuag at gostau cwrs Egin Awduron yn Nhŷ Newydd, cuddfan ysgrifennu gogledd Cymru.

Katya Johnson oedd y prif enillydd eleni am ei stori Silver Darling.

Cyhoeddir detholiad o waith ysgrifenedig ymgeiswyr eleni yng nghyfrol Cheval gan Parthian Books, llwyfan ar gyfer pobl ifanc i gyhoeddi darnau ysgrifenedig drwy gyfrwng barddoniaeth a rhyddiaith. Mae'r holl elw a wneir o'r gyfrol yn mynd tuag at y Wobr.

Mae enillwyr blaenorol y wobr wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfa mewn ysgrifennu. Cyhoeddodd enillwyr blaenorol Gwobr Costa, Jonathan Edwards a Sion Tomos Owen, eu llyfr cyntaf, Cawl, y llynedd. Cyn-enillydd arall yw Tyler Keevil, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol sydd wedi ennill nifer o wobrau am ei ffuglen.

Cynhelir y gwobrau yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, a chyflwynir y gwobrau 2018 ar 29 Mehefin. Mae modd cyflwyno ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth 2019 nawr.

Rhannu’r stori hon